Gwasanaeth Cudd yr Unol Daleithiau

Asiantaeth i orfodi'r gyfraith ffederal yn Unol Daleithiau America yw Gwasanaeth Cudd yr Unol Daleithiau (Saesneg: United States Secret Service, USSS) sydd yn rhan o Adran Ddiogelwch Cartref yr Unol Daleithiau. Ei prif swyddogaeth hanesyddol, ers ei sefydlu fel rhan o Adran y Trysorlys ym 1865, oedd archwilio ffugio arian bath. Ehangodd ei ddyletswyddau i gynnwys troseddau ffederal ariannol eraill, megis smyglo, moddion anghyfreithlon o gludo a gwerthu nwyddau, a thwyll post. Wedi llofruddiaeth yr Arlywydd William McKinley ym 1901, daeth y Gwasanaeth Cudd hefyd yn gyfrifol am warchod prif wleidyddion a swyddogion llywodraethol y wlad, eu teuluoedd, a phennau gwladwriaethol a llywodraethol sy'n ymweld â'r Unol Daleithiau. Yn sgil sefydlu'r FBI ym 1908, collodd y Gwasanaeth Cudd ei awdurdodaeth dros nifer o droseddau ariannol, ond parhaodd yn gyfrifol am archwilio tor-cyfraith sy'n ymwneud â'r sector cyllidol a'r banciau. Trosglwyddwydd yr asiantaeth o Adran y Trysorlys i'r Adran Ddiogelwch Cartref yn 2003.[1]

Gwasanaeth Cudd yr Unol Daleithiau
Sêl Gwasanaeth Cudd yr Unol Daleithiau
Enghraifft o'r canlynolfederal law enforcement agency of the United States, specialist law enforcement agency, secret service Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu5 Gorffennaf 1865 Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadDirector of the United States Secret Service Edit this on Wikidata
Map
Gweithwyr4,500 Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadUnited States Department of Homeland Security Edit this on Wikidata
PencadlysWashington Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.secretservice.gov/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) U.S. Secret Service. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Gorffennaf 2024.
  Eginyn erthygl sydd uchod am yr Unol Daleithiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.