Gwaun Troed-rhiw-seiri a Llyn Mynydd-gorddu
Mae Gwaun Troed-rhiw-seiri a Llyn Mynydd-gorddu, yng nghymunedau Trefeurig a Cheulan-a-Maesmor yng ngogledd Ceredigion, wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 29 Rhagfyr 1982 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1] Mae ei arwynebedd yn 10.83 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.
Math | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 10.83 ha |
Cyfesurynnau | 52.4539°N 3.956°W |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Disgrifiad y SoDdGA
golyguCeir yn y SoDdGA gymysgedd o gynefinoedd gwahanol sy'n cynnal amrywiaeth helaeth o lystyfiant, gan gynnwys torreth o flodau drilliw'r mynydd mewn amryfal liwiau. Glaswelltir mynydd heb ei wella sydd yma, ar dir sych asidaidd ar ben y llethr, ar uchder o 220m, a glaswelltir corsiog asidaidd o gwmpas y llyn a'r nant islaw. Mae Llyn Mynydd-gorddu yn llyn oligotroffig gydag is-haen fawnog. Mae'n gymharol brin o faetholion ac felly'n cynnal planhigion anghyffredin sy'n ffynnu yn y fath gynefin. Ar y safle ceir hefyd cors siglennaidd, mignenni, trylifiadau, prysgwydd a tharddellau.
Dynodwyd y safle yn SoDdGA ar 29 Rhagfyr 1982 yn ôl y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Nid oes mynediad i'r cyhoedd i'r safle.
Planhigion y SoDdGA
golygu- Peisgwellt y waun (Festuca ovina)
- Briwydd y rhostir (Galium saxatile)
- Llysiau’r groes (Polygala serpyllifolia)
- Fioled y mynydd (Viola lutea)
- Ffyngau o nifer o rywogaethau
- Perwellt y gwanwyn (Anthoxanthum odoratum)
- Grugwellt (Sieglingia decumbens)
- Hesg cynnar (Carex caryophyllea)
- Fioled gyffredin (Viola riviniana)
- Cloch yr eos (Campanula rotundifolia)
- Tresgl (Potentilla erecta)
- Effros (Eurphrasia sp)
- Pys y ceirw (Lotus corniculatus)
- Clychau’r gog (Endymion non-scriptus)
- Cnau daear (Conopodium majus)
- Gwreiddiriog (Pimpinella saxifraga)
- Tafod y neidr (Ophioglossum vulgatum)
- Lloerlys (Botrychium lunaria)
- Eithin (Ulex europaeus)
- Rhedyn (Pteridium aquilinum)
- Dyfrllys llydanddail (Potamogeton natans)
- Marchrawn yr afon (Equisetum fluviatile)
- Tinboeth (Polygonum hydropiper)
- Hesg gylfinfain (Carex rostrata)
- Helyg crynddail (Salix atrocinerea)