Gwe'r pryf copyn
Rhwydwaith main ysgafn a wëir gan bryf copyn i ddal ei brau yw gwe'r pryf copyn neu gwe'r copyn. Gwea'r pryf copyn ei we o fath arbennig o sidan lawn protein (proteinaceous) sy'n dod o "beiriannau nyddu" organig sydd ar ei fol. Mae gwybed yn cael eu dal yn y we ac yn cael eu bwyta gan y pryf copyn; ond dydi pob pryf copyn ddim yn adeiladu gweoedd i ddal prau, a dydi rhai pryfed cop ddim yn adeiladu gweoedd o gwbl.
Mae'r ffibrau yn y we yn gryfach am eu bwysau na dur.
Ar ôl gwau ei we, fel rheol mae'r pryf copyn yn aros ar ymyl y we, neu'n agos iddi, yn disgwyl i wybedyn gael ei ddal ynddi. Trwy'r ffibrau, mae'r pryf copyn yn gallu synhwyro trawiad y gwybedyn ar y we a'i ymdrechion i ryddhau ei hun trwy'r cynhyrfiadau a yrrir ar eu hyd.
Fel rheol dydi pryfed copyn ddim yn clymu wrth eu gweoedd eu hunain. Fodd bynnag, dydy nhw ddim yn rhwydd o gael eu dal gan eu glud eu hunain. Mae rhai o'r ffibrau yn gludog ac eraill heb fod. Yn aml mae'r pryf copyn yn gweu llinyn ddigludog — llinyn arwydd — o ganol y we i'r ymyl i fonitro symudiadau. Gall symud ar hyd y llinyn i ganol y we i ddal y prau, ond rhaid iddo fod yn ofalus i beidio gael ei glymu yn ei lud ei hun.