Gwen Davies (Y Wrach Wen)
gwrach o Sir Benfro
Gwrach neu 'wraig hysbys' chwedlonol oedd Kate y Wrach o Fflandrys a oedd yn byw yn Sir Benfro.
Gwen Davies | |
---|---|
Ganwyd | Sir Benfro |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Yn ôl y chwedl roedd Gwen Davies yn wrach oedd yn byw yn Sir Benfro. Roedd ganddi’r gallu i wella cleifion. Un diwrnod, ymwelodd hen ddyn â hi.
Roedd yr hen ddyn wedi bod yn sâl ers blynyddoedd, ac wedi trio trin ei gyflwr â meddigyniaeth draddodiadol, heb fawr o lwyddiant. Eglurodd yr hen ddyn ei afiechyd i Gwen. Gosododd hi 11 darn o wellt ar y bwrdd, a dechreuodd hi eu symud nhw.
Daliodd hi ati nes bod pob darn o wellt wedi ei symud o’i leoliad gwreiddiol. Dechreuodd hi lafarganu’n dawel. Daeth y driniaeth i ben, a gadawodd y claf. Gwellodd y dyn o’i afiechyd yn gyfan gwbl.