Gwenan Jones

addysgydd ac awdur

Academydd o Gymraes oedd Gwenan Jones (3 Tachwedd 18891 Rhagfyr 1971).[1]

Gwenan Jones
Ganwyd3 Tachwedd 1889 Edit this on Wikidata
y Bala Edit this on Wikidata
Bu farw12 Ionawr 1971 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethacademydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Ganed Gwen Ann Jones yn Y Bala yn 1889. Yn y Coleg y dechreuodd arfer yr enw Gwenan. Cofir Jones am fod yn Lywydd cyntaf Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, a bu hefyd yn weithgar gyda'r Urdd a Phlaid Cymru ac o blaid heddychaeth.

Gwenan Jones oedd ymgeisydd Plaid Cymru yn etholiad cyffredinol 1945 dros sedd Prifysgol Cymru - y fenyw cyntaf i ymladd etholiad seneddol ar ran y Blaid. Wrth iddi ennill bron chwarter o'r pleidleisiau (24.5%), ac achub ei blaendal, hi oedd y mwyaf llwyddiannus o ymgeisydd y Blaid yn etholiad 1945.

Fe'i haddysgwyd ym Mhrifysgol Cymru a Phrifysgol Minnesota.

Cyfeiriadau golygu

  1. "JONES, GWENAN (1889-1971), addysgydd ac awdur | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-04-21.