Gwenda Griffith
Cynhyrchydd teledu o Gymraes oedd Gwenda Griffith (10 Mawrth 1942 – 21 Mai 2024).[1]
Gwenda Griffith | |
---|---|
Ganwyd | 10 Mawrth 1942 |
Bu farw | 21 Mai 2024 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cynllunydd tai, cynhyrchydd teledu |
Magwyd Gwenda yng Nghorwen ac aeth i Ysgol Ramadeg y Merched yn y Bala. Graddiodd ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.
Gyrfa
golyguSefydlodd y cwmni Fflic yn 1982 er mwyn cynhyrchu rhaglenni teledu ar gyfer S4C. Yn yr 1980au cynhyrchodd y gyfres i ddysgwyr Now You're Talking. Yn y 2000au cafwyd cyfresi dysgu Cymraeg Welsh in a Week a Cariad@Iaith' yn 2000au.
Roedd Gwenda yn gynllunydd tai ac roedd nifer o'i cynhyrchiadau teledu yn adlewyrchu ei diddordebau. Cynhyrchodd y gyfres ffasiwn Steil, Pedair Wal a 04 Wal, Y Tŷ Cymreig a Cwpwrdd Dillad.[2] Cynhyrchodd raglenni plant hefyd yn cynnwys Stwffio, Nics Nain a Hip neu Sgip?
Yn 2005, daeth Fflic yn rhan o gwmni Boomerang (Boom erbyn hyn).[3] Yn y cyfnod hwn, cynhyrchwyd nifer o raglenni eraill yn cynnwys Cegin Bryn, 100 Lle, Dal Ati, Ceffylau Cymru a Caeau Cymru.
Roedd Gwenda wedi bod yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn ers mis Tachwedd 2014.
Anrhydeddau
golyguYn 2002 derbyniodd wobr arbennig Cymraes y Flwyddyn yn y Cyfryngau ac yn 2012 fe’i anrhydeddwyd gan Gymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru i gydnabod gwasanaeth arbennig yn hybu pensaerniaeth.[2]
Fe'i urddwyd i'r Orsedd gyda Gwisg Las yn 2012.[4]
Bywyd personol
golyguRoedd yn briod a Huw ac roedd ganddynt ddau o blant – Dylan a Beca.[2]
Bu farw yn 82 mlwydd oed ar ôl salwch byr. Cynhaliwyd ei angladd ar Ddydd Iau 13 Mehefin 2024 yn Amlosgfa Coychurch, Pen-y-bont ar Ogwr, gyda gwahoddiad i'r galarwyr "wisgo yn smart, mewn lliw o'ch dewis".[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Click here to view the tribute page for Gwenda GRIFFITH". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-06-09.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "Nant Gwrtheyrn | Pwy 'Di Pwy". Nant Gwrtheyrn. Cyrchwyd 2024-05-23.
- ↑ Barry, Sion (2005-02-23). "Three into one is value added". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-05-23.
- ↑ "Rhestr lawn o'r Cymry i'w hurddo i Orsedd y Beirdd yn 2012". BBC Cymru Fyw. 2012-05-31. Cyrchwyd 2024-05-23.
- ↑ "Y cynhyrchydd teledu Gwenda Griffith wedi marw yn 82 oed". BBC Cymru Fyw. 2024-05-22. Cyrchwyd 2024-05-23.