Gweriniaeth Islamaidd Affganistan

gwladwriaeth gynt yn Affganistan (2004–2021)

Gwladwriaeth a fodolai yn Affganistan o 2004 i 2021 oedd Gweriniaeth Islamaidd Affganistan (Dari: جمهوری اسلامی افغانستان Jumhūrī-yi Islāmī-yi Afġānistān, Pashto: د افغانستان اسلامي جمهوریت Da Afġānistān Islāmī Jumhoryat), yn ystod cyfnod Rhyfel Affganistan (2001–21). Sefydlwyd y weriniaeth Islamaidd gan y cyfansoddiad newydd a gadarnhawyd yn Ionawr 2004,[1] dwy flynedd wedi cwymp y Taleban a fuont yn llywodraethu ar Emiriaeth Islamaidd Affganistan o 1996 i 2001. Daeth Gweriniaeth Islamaidd Affganistan i ben yn sgil buddugoliaeth ymgyrch ymosodol y Taleban yn Awst 2021 ac ailsefydlu'r Emiriaeth Islamaidd. Er iddi golli'r rhan fwyaf helaeth o'i thiriogaeth, cydnabyddir y Weriniaeth Islamaidd o hyd yn llywodraeth gyfreithlon Affganistan gan nifer o wledydd eraill.

Gweriniaeth Islamaidd Affganistan
Arwyddairنه به افراطیت Edit this on Wikidata
Mathgwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
PrifddinasKabul Edit this on Wikidata
Poblogaeth39,905,102 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 26 Ionawr 2004 (Cyfansoddiad Affganistan) Edit this on Wikidata
AnthemAnthem Genedlaethol Affganistan Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAbdullah Abdullah Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Pashto Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladAffganistan Edit this on Wikidata
Arwynebedd652,864 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau34.5328°N 69.1658°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCynulliad Cenedlaethol Affganistan Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Affganistan Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethHamid Karzai, Ashraf Ghani, Amrullah Saleh Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weithredwr Affganistan Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAbdullah Abdullah Edit this on Wikidata
Map
Arianafghani Edit this on Wikidata

Pennaeth gwladwriaethol a llywodraethol cyntaf y weriniaeth oedd yr Arlywydd Hamid Karzai, a fu'n arweinydd dros dro y wlad ers Cynhadledd Bonn yn Rhagfyr 2001 ac yn gadeirydd Gweinyddiaeth Drawsnewidiol Affganistan (2002–04) ers cynulliad y loya jirga yn y brifddinas Kabul ym Mehefin 2002. Etholwyd Karzai yn Arlywydd Affganistan gan y bobl yn Hydref 2004, a'i ail-ethol yn Awst 2009. Yn sgil canlyniadau amheus yr etholiad arlywyddol yn 2014, cytunodd y ddau prif ymgeisydd, Ashraf Ghani ac Abdullah Abdullah, i rannu grym, gyda'r Arlywydd Ghani yn bennaeth y wladwriaeth a'r Prif Weithredwr Abdullah yn bennaeth y llywodraeth hyd at Fawrth 2020. Ail-etholwyd Ghani yn 2019, ac efe oedd arlywydd olaf Gweriniaeth Islamaidd Affganistan.

Ffoes Ghani y wlad yn ystod cwymp Kabul yn Awst 2021, ac honnai'r Prif Is-arlywydd Amrullah Saleh ei fod yn arlywydd dros dro y wlad.[2] Cadarnle olaf y Weriniaeth Islamaidd yw Dyffryn Panjshir, sydd yn parhau'r frwydr yn erbyn y Taleban er gwaethaf cwymp Kabul.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "The Constitution of Afghanistan" (26 Ionawr 2004). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 18 Awst 2021.
  2. (Saesneg) "Afghan vice president says he is "caretaker" president", Reuters (17 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 18 Awst 2021.
  3. (Saesneg) "Panjshir flies flag of resistance again; Amrullah says he is President of Afghanistan", The Tribune (17 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 19 Awst 2021.