Gwinllan Pant Du
Perllan a gwinllan ar lethrau deheuol Dyffryn Nantlle, Gwynedd yw Gwinllan Pant Du.
Math | gwinllan, perllan |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.053728°N 4.273377°W |
Gellir profi'r cynnyrch mewn tŷ bwyta, gan gynnwys sudd afalau Cymreig e.e. Afalau Enlli, coeden afal oedd ar un cyfnod bron wedi diflannu. Hi yw'r winllan a’r berllan gyntaf yng Nghymru i redeg oddi ar egni solar a cheir sawl pwynt gwefru Tesla yno.[1]
Cynnyrch
golyguCeir 3,200 o goed afalau ar 18 acer o dir y fferm; 2,000 ohonynt yn afalau seidr traddodiadol a'r gweddill yn afalau Cymreig cynhenid. Mae 700 o'r coed afalau Cymreig yn goed Afalau Enlli. Drwy blannu cymaint o goed mae Pant Du yn cyfrannu at barhâd a datblgiad yr afal hanesyddol hwn o Lŷn. Mae Pant Du yn cynhyrchu 3 math o sudd afal: sudd afal naturiol Llonydd, pefriog ac afal Enlli.[2]
Sefydlwyd y winllan yn ôl yn 2007 pan blannwyd 6,600 o winwydd ar 7.5 acer o dir y fferm. Erbyn heddiw mae 1,300 o goed Rondo wedi eu plannu’n ychwanegol, gan fod pridd Pant Du yn addas iawn ar ei gyfer. Ceir gwin coch a rhosliw allan o'r Rondo.
Tyf 8 gwahanol fath o winwydd yng Ngwinllan Pant Du: Bacchhus, Seyval Blanc, Sigrrebe, Souvignon Blanc, Pinot Noir, Frühburgunder / Pinot Noir cynnar, Regent a Rondo. Yn 2010 y cafwyd y cnwd cyntaf ac roedd yn barod i'w yfed erbyn Haf y flwyddyn wedyn.
Cynhyrchir hefyd ddŵr Ffynnon Pant Du a ddisgrifir fel "Dŵr ffynnon o ddyffryn rhewlifol Dyffryn Nantlle, wrth droed yr Wyddfa. Mae'r dŵr yn gytbwys mewn mineralau, ac yn unigryw oherwydd ei daith drwy'r creigiau Cyn-Gambriaidd a ffurfiwyd dros 500 miliwn o flynyddoedd yn ôl.”
Gwobrau
golyguEnillodd y gwin Rondo 2010 Wobr Efydd Cymdeithas Gwinllanoedd y Deyrnas Gyfunol yn 2012. Enillwyd llu o wobrau'r Gymdeithas Gwinllanoedd Cymru gan gynnwys tair gwobr yn 2015.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ dailypost.co.uk; Wales' first solar-powered vineyard opens Snowdonia valley to tourism; adalwyd 19 Mehefin 2019.
- ↑ winecellardoor.co.uk; adalwyd 19 Mehefin 2019