Gwirebau tebygolrwydd

Mae gwirebau tebygolrwydd yn rhan hanfodol o ddamcaniaeth tebygolrwydd Andrey Kolmogorov, ac fe'i gelwir yn aml yn wirebau Kolmogorov. Bodlonir y gwirebau hyn, fel arfer, pan ddiffinir tebygolrwydd P rhyw ddigwyddiad E, a ddynodir gan .

Gellir crynhoi'r gwirebau hyn fel a ganlyn: Gadewch i (Ω, FP) fod yn fesuriad o ofod, gyda P(Ω) = 1. Yna, mae (Ω, FP) yn ofod tebygolrwydd, gyda gofod y sampl (neu'r 'gofod sampl') Ω, gofod y digwyddiad F a mesuriad y tebygolrwydd yn P.[1]

Dull arall o ffurfioli'r tebygolrwydd yw damcaniaeth Fox, a dyma'r dull a ddewisir gan gefnogwyr y meddylfryd Bayes.[2]

Y gwirebau golygu

Gwireb 1 golygu

Mae'r tebygolrwydd o unrhyw ddigwyddiad yn rhif real nad yw'n negatif:

 

lle mae   yn ofod y digwyddiad. Yn fwy manwl, mae   bob amser yn feidraidd, sy'n ei wneud yn wahanol iawn i'r ddamcaniaeth o fesuriad mwy cyffredinol.

Gwireb 2 golygu

Dyma'r dybiaeth o 'uned fesur': Y tebygolrwydd o leiaf un digwyddiad i ddigwyddiad, yn y gofod sampl yw 1.

 

Gwireb 3 golygu

Dyma'r dybiaeth o ychwanegoldeb-σ-: (sef 'ychwanegoldeb sigma'):

Mae unrhyw gyfres rhifadwy o setiau digyswllt:   yn bodloni
 

Cyfeiriadau golygu

  1. Diffiniad ffurfiol o debygolrwydd yn y system Mizar, a rhestr o ddamcaniaethau[dolen marw] ffurfiol.
  2. Calcwlws Kolmogorov o debygolrwydd, Stanford Encyclopedia of Philosophy.