Gwladwriaeth byped

Gwladwriaeth sydd yn honni ei bod yn annibynnol ond sydd yn wir yn gweithredu yn ôl ewyllys gwladwriaeth arall yw gwladwriaeth byped.

Yn hanesyddol bu sawl math o wlad a oedd yn ddarostyngedig i ymerodraeth neu bŵer mawr ond nid yn swyddogol yn rhan ohoni: gwladwriaeth gaeth, gwladwriaeth ddibynnol, protectoriaeth, a gwledydd oedd dan law penarglwyddiaeth. Parheir y syniad o wledydd dibynnol a meysydd dylanwad yn y drefn ryngwladol fodern, ond mae'r term gwladwriaeth byped yn awgrymu sefyllfa lle mae'r wladwriaeth rymus yn meddu ar reolaeth lwyr dros lywodraeth y wladwriaeth byped ac yn ei defnyddio er diddordebau ei hunan.[1]

Er enghraifft, mae sawl gwladwriaeth yn Nwyrain Ewrop a'r Cawcasws sydd heb fawr o gydnabyddiaeth ryngwladol a chaiff eu hystyried gan rai yn wladwriaethau pyped a gefnogir gan Ffederasiwn Rwsia: Abcasia, De Ossetia, Gweriniaeth Pobl Donetsk, a Gweriniaeth Pobl Lugansk. Dadleuir bod Rwsia yn rheoli'r gwledydd hyn ar draul diddordebau Georgia a'r Wcráin.

Cyfeiriadau golygu

  1. G. R. Berridge ac Alan James, A Dictionary of Diplomacy (Basingstoke: Palgrave Macmillan, 2003), t. 218.