Gwleidyddiaeth yr Eidal

Gweriniaeth ddemocrataidd seneddol gyda system amlbleidiol yw'r Eidal. Mae'r grym gweithredol gan Gyngor y Gweinidogion, a arweinir gan Brif Weinidog yr Eidal, ac mae'r grym deddfwriaethol gan ddau dŷ Senedd yr Eidal (Parlamento Italiano), sef Siambr y Dirprwyon a'r Senedd (Senato della Repubblica), a Chyngor y Gweinidogion. Mae'r farnwriaeth yn annibynnol ar yr adran weithredol a'r ddeddfwrfa.

Giorgio Napolitano yw Arlywydd yr Eidal a Silvio Berlusconi yw Prif Weinidog yr Eidal.

Yr Eidal ac yr Undeb Ewropeaidd golygu

Mae'r Eidal yn un o'r chwe aelod-wladwriaeth wreiddiol o'r Gymuned Ewropeaidd. Yn draddodiadol mae'r Eidal wedi bod wrth wraidd gwneuthuriad polisi, yn gefnogwr brwd o'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (CAP), ac yn gefnogol i Undeb Ewropeaidd ffederal.

  Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Eidal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.