Gwrach Cors Fochno
gwrach chwedlonol a oedd yn byw yng Nghors Fochno, Ceredigion
Gwrach neu 'wraig hysbys' chwedlonol oedd Gwrach Cors Fochno a oedd yn byw yng Nghors Fochno, Ceredigion.
Gwrach Cors Fochno | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwrach |
Mae Cors Fochno yn gors fawr ger Borth yng nghanolbarth Cymru. Yn ôl chwedloniaeth, roedd gwrach yn arfer byw yno. Yn ôl y chwedl roedd hi’n saith troedfedd o uchder, yn denau ac roedd ganddi ben enfawr o wallt du.
Mi fyddai hi’n torri i mewn i dai pobl i chwythu salwch yn eu gwynebau wrth iddyn nhw gysgu. Cyfeirir at y salwch weithiau fel malaria.