Gwyddoniaeth y Dinesydd
Dull o roi'r dinesydd cyffredin ar waith i gasglu data sydd yn wyddonol ddilys am y byd yw Gwyddoniaeth y Dinesydd. Dyma ganllawiau'r European Citizen Science Association.[1]
Enghraifft o'r canlynol | disgyblaeth academaidd |
---|---|
Math | participatory science, torfoli |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Deg egwyddor sy’n perthyn i wyddoniaeth y dinesydd
golyguCysyniad hyblyg y gellir ei addasu a’i ddefnyddio mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd a disgyblaethau yw gwyddoniaeth y dinesydd. Cafodd y datganiadau isod eu datblygu gan weithgor ‘Rhannu arferion gorau a meithrin gallu’ yr European Citizen Science Association, dan arweiniad y Natural History Museum yn Llundain gyda chyfraniadau gan sawl aelod o’r Gymdeithas, a hynny er mwyn pennu rhai o’r egwyddorion allweddol sydd, yn ein barn ni fel cymuned, yn sylfaenol i arferion da mewn gwyddoniaeth y dinesydd.
1. Mae prosiectau gwyddoniaeth y dinesydd yn cynnwys dinasyddion mewn ymdrechion gwyddonol sy’n esgor ar wybodaeth neu ddealltwriaeth newydd. Gall dinasyddion fod yn gyfranwyr, yn gydweithwyr, neu’n arweinwyr prosiectau a rhaid iddynt fod â rôl arwyddocaol yn y prosiect.
2. Mae prosiectau gwyddoniaeth y dinesydd yn esgor ar ganlyniadau gwyddonol dilys. Er enghraifft, ateb cwestiwn ymchwil neu gyfarwyddo camau cadwraethol, penderfyniadau rheoli neu bolisïau amgylcheddol.
3. Mae gwyddonwyr proffesiynol a gwyddonwyr ‘dinasyddion’ yn elwa ar gymryd rhan. Gall y manteision gynnwys cyhoeddi canlyniadau gwaith ymchwil, cyfleoedd dysgu, mwynhad personol, manteision cymdeithasol, boddhad o gyfrannu at dystiolaeth wyddonol e.e. ar gyfer ymdrin â materion lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, a thrwy hynny, y potensial o ddylanwadu ar bolisïau.
4. Os dymunant, gall gwyddonwyr ‘dinasyddion’ gymryd rhan mewn amryfal gamau yn y broses wyddonol. Gall hyn gynnwys datblygu’r cwestiwn ymchwil, cynllunio’r dull, casglu a dadansoddi data, a chyfleu’r canlyniadau.
5. Mae gwyddonwyr ‘dinasyddion’ yn cael adborth yn sgil y prosiect. Er enghraifft, sut y caiff eu data ei ddefnyddio a beth yw canlyniad y gwaith ymchwil neu’r polisi, neu’r canlyniad cymdeithasol.
6. Caiff gwyddoniaeth y dinesydd ei ystyried yn ddull ymchwil fel unrhyw un arall, gyda chyfyngiadau a rhagfarnau y dylid eu hystyried a’u rheoli. Fodd bynnag, yn wahanol i ddulliau ymchwilio traddodiadol, mae gwyddoniaeth y dinesydd yn cynnig mwy o gyfle i ymgysylltu â’r cyhoedd ynghyd â sicrhau bod gwyddoniaeth yn fwy democrataidd.
7. Caiff data a metadata prosiectau gwyddoniaeth y dinesydd eu rhyddhau i’r cyhoedd a, phan fo modd, caiff y canlyniadau eu cyhoeddi mewn fformat mynediad agored. Efallai y bydd data’n cael ei rannu yn ystod, neu ar ôl, y prosiect, oni bai bod pryderon ynghylch diogelwch neu breifatrwydd yn rhwystro hyn rhag digwydd.
8. Caiff gwyddonwyr ‘dinasyddion’ eu cydnabod yng nghanlyniadau a chyhoeddiadau’r prosiectau.
9. Caiff rhaglenni gwyddoniaeth y dinesydd eu gwerthuso ar sail eu canlyniadau gwyddonol, ansawdd eu data, y profiad a roddant i’r cyfranogwyr a’u heffeithiau ehangach o safbwynt y gymdeithas neu bolisïau.
10. Mae arweinwyr prosiectau gwyddoniaeth y dinesydd yn ystyried materion cyfreithiol a moesegol yn ymwneud â hawlfraint, eiddo deallusol, cytundebau rhannu data, cyfrinachedd, priodoliad, ac effeithiau amgylcheddol unrhyw weithgareddau.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2020-06-12. Cyrchwyd 2020-06-12.