Earias insulana
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Noctuidae
Genws: Earias
Rhywogaeth: E. insulana
Enw deuenwol
Earias insulana
(Boisduval, 1833)
Cyfystyron
  • Tortrix insulana Boisduval, 1833
  • Earias siliquana Herrich-Schäffer, 1851
  • Earias smaragdinana Zeller, 1852
  • Earias frondosana Walker, 1863
  • Acontia xanthophila Walker, [1863]
  • Earias simillima Walker, 1866
  • Earias anthophilana Snellen, 1879
  • Earias tristrigosa Butler, 1881

Gwyfyn bychan sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwyrdd yr Aifft, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwyrddion yr Aifft; yr enw Saesneg yw Egyptian Bollworm, a'r enw gwyddonol yw Earias insulana.[1][2] Mae i'w ganfod yn: y rhan fwyaf o Africa, de Europe, y Dwyrain agos a'r Dwyrain Canol, Japan, Taiwan, the Pilipinas, Awstralia a Hawaii. Mae hefyd yn ymwelydd prin â gwledydd Prydain.

Dim ond 20–22 mm ydy lled ei adenydd. Ceir dwy genhedlaeth gyda'r cyntaf o liw gwyrdd llachar a'r ail yn felyngoch.

Bwyd golygu

Ymhlith y bwydydd mae'n ei fwyta y mae: ocra, cotwm a hibiscus, ond gwelir ef ar adegau hefyd ar blanhigion reis siwgwr ac India corn. Ar y dechrau mae'r siani flewog yn gwledda ar egin y planhigyn ac yna'n troi at y dail. Mae'r siani flewog yn 13–18 mm.[3].

 
Blodyn hibiscus

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r gwyrdd yr Aifft yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  3. www.hantsmoths.org