Haf Bach Mihangel
Mae'r enw Haf Bach Mihangel yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio digwyddiad annisgwyl yn y tywydd, mewn cyfnod pan fydd yr haf wedi gorffen a'r hydref wedi cychwyn, lle mae tywydd yr haf yn dod yn ôl am gyfnod byr o rai diwrnodau. Fel arfer bydd yn digwydd yn y dyddiau o gwmpas Gŵyl San Mihangel ar 29 Medi, sy'n esbonio'r enw.[1]
Enghraifft o'r canlynol | singularity |
---|---|
Math | Hydref, season |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'n tarddu yn wreddiol gwledydd Catholig, gan gyfeirio at San Mihangel a San Martin, er enghraifft:[2]
Sbaeneg: "Veranillo de San Miguel"
Ffrangeg: "Été de la Saint-Martin"
Eidaleg: "L'estate di San Martino"
Daw'r term cyfatebol yn Saesneg "Indian Summer" o'r Unol Daleithiau yn wreiddiol, ac fe'i defnyddid yn Lloegr ers yr 19g cynnar.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Haf bach Mihangel". BBC Cymru Fyw. 2023-09-07. Cyrchwyd 2023-09-14.
- ↑ "Spain ready for the". apcspain.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-14.
- ↑ "What is an Indian summer and will we get one this year?". Country Living (yn Saesneg). 2023-08-30. Cyrchwyd 2023-09-14.