Hank Aaron

chwaraewr pêl fas

Chwaraewr pêl fas o Unol Daleithiau America oedd Henry Lewis "(Hank)" Aaron (5 Chwefror 193422 Ionawr 2021). Mae'n cael ei ystyried gan rai o fod ymysg y batwyr pêl fas gorau erioed[1]. Yn faeswr batio llaw dde fe gurodd bron pob record yn ei yrfa 23 mlynedd efo'r Milwaukee Braves a'r Milwaukee Brewers.

Hank Aaron
GanwydHenry Louis Aaron Edit this on Wikidata
5 Chwefror 1934 Edit this on Wikidata
Mobile, Alabama Edit this on Wikidata
Bu farw22 Ionawr 2021 Edit this on Wikidata
Atlanta Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr pêl fas Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Spingarn, Medal Dinasyddion yr Arlywydd, Rawlings Gold Glove Award, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Chwedl Fyw Llyfrgell y Gyngres, Gwobr Horatio Alger, Major League Baseball Most Valuable Player Award, Gradd er anrhydedd o Goleg Spelman Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auMilwaukee Brewers, Atlanta Braves Edit this on Wikidata
Saflemaeswr, right fielder Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata

Bywyd personol golygu

Fe'i ganed yn Mobile, Alabama, yn fab i Herbert Aaron, rhybedwr llongau ac Estelle (née Pritchet ei wraig).[2]

Cafodd ei addysgu yn ysgol uwchradd ganolog Mobile cyn graddio o'r Josephine Allen Institute ym 1951.

Ym 1953 Priododd Barbara Lucas a bu iddynt 5 o blant; bu iddynt ysgaru ym 1971. Ym 1973 priododd Aaron ei ail wraig, Billy Suber Williams.

Gyrfa golygu

Dechreuodd ei yrfa trwy chware yn lled broffesiynol i dîm y Mobile Black Bears cyn symud i chware i'r Indianapolis Clowns, dau dîm mewn cynghrair i bobl groenddu yn unig. Ym 1952 arwyddodd contract gyda'r Boston Braves ac yna'r Milwaukee Braves ym 1954, gan chware iddynt hyd 1975 (ym 1966 newidiodd y tîm ei enw i'r Atlanta Braves). Ym 1975 ymunodd a'r Milwaukee Brewers gan chware iddynt hyd iddo ymddeol fel chwaraewr ym 1976.[3]

Yn ystod ei 23 mlynedd fel chwaraewr proffesiynol fe dorrodd 12 record yn ei gamp. Mae'n cael ei gofio yn bennaf am dorri record Babe Ruth o 714 Rhediad Gartref. Ymysg ei recordiau eraill bu: yr un i chware'r nifer mwyaf o gemau (3,298), y chware i fatio'r nifer fwyaf o weithiau (12,364) y nifer fwyaf o fasiau (6,856) a'r nifer fwyaf o ergydion bas ychwanegol (1,477).

Wedi rhoi'r gorau i chware aeth Aaron yn ôl i'r Atlanta Braves lle fu'n gwasanaethu fel hyfforddwr ac yn aelod o'r tîm rheoli.

Anrhydeddau golygu

Ym 1956 cafodd Aaron ei enwi'n Chwaraewr Mwyaf Gwerthfawr (MVP), wedi iddo arwain y Braves i Gyfres Pencampwriaeth y Byd. Cafodd ei urddo'n aelod o Neuadd Enwogion Pêl Fas ym 1982. Ym 1999, creodd yr MLB Wobr Hank Aaron, sy'n cael ei rhoi yn flynyddol i'r ergydwyr pêl fas mwyaf effeithiol ym mhob cynghrair.

Yn 2001, cyflwynodd yr Arlywydd Bill Clinton Medal Dinasyddion yr Arlywydd iddo ac yn 2002 derbyniodd Medal Rhyddid yr Arlywydd, gwobr sifil uchaf ei genedl, gan yr Arlywydd George W. Bush.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "AARON, Hank (Henry Lewis)", Chambers Biographical Dictionary, cyfrol 1990, gol. Magnus Magnusson tud 1
  2. Biographical Dictionary of American Sports: A-F; gol David L. Porter ''AARON, Henry Lewis (Hank); adalwyd 5 Ionawr 2018
  3. "Henry Aaron - biography"[dolen marw], Gwefan Atlanta Braves; adalwyd 5 Ionawr 2018
  4. "President Bush Announced the Recipients of the Presidential Medal of Freedom", Y Tŷ Gwyn; datganiad i'r wasg 20 Mehefin 2002; adalwyd 5 Ionawr 2018