Hannah Keziah Clapp
Ffeminist Americanaidd oedd Hannah Keziah Clapp (1824 - 8 Hydref 1908) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel swffragét, llyfrgellydd ac athro.
Hannah Keziah Clapp | |
---|---|
Ganwyd | 1824 Albany |
Bu farw | 8 Hydref 1908 Palo Alto |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | swffragét, llyfrgellydd, athro, addysgwr |
Cyflogwr |
Fe'i ganed yn Albany, Efrog Newydd yn 1824 a chyrhaeddodd Carson City ym 1860, lle sefydlodd Seminari Sierra; bu'n byw am flynyddoed yn Nevada. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Nevada, Reno. [1]
Trefnodd ysgol breifat gyntaf y dalaith a hi oedd cyd-sylfaenydd meithrinfa gyntaf y dalaith. Gwasanaethodd fel pennaeth Seminar Benywaidd Lansing, dysgodd yng Ngholeg Merched Michigan a hi oedd hyfforddwr a llyfrgellydd cyntaf Prifysgol Nevada, Reno. Cyd-sefydlodd Clapp Glwb Reno yn yr 20g (Reno's 20th Century Club), a ychwanegwyd ym 1983 at y Gofrestr Genedlaethol o Leoedd Hanesyddol yn Washoe County, Nevada.[2][3][4]
Yn Carson City sefydlodd Seminari Sierra. Yn swffragét, bu Clapp hefyd yn gweithio dros hawl menywod i bleidleisio (sef etholfraint).[5] Bu'n aelod-siarter o Gymdeithas Hanesyddol Nevada.[6] Bu farw yn Palo Alto, California ym 1908.[7]
Anrhydeddau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Galwedigaeth: http://www.visitcarsoncity.com/history/people/hannah_clapp.php.
- ↑ Dyddiad geni: "Hannah Keziah Clapp". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: "kahmani .h king". Cyrchwyd 9 Hydref 2019.
- ↑ Man geni: http://www.visitcarsoncity.com/history/people/hannah_clapp.php.
- ↑ "Hannah Clapp". Carson City Convention & Visitors Bureau. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Mawrth 2012. Cyrchwyd 3 Chwefror 2012. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Nevada Historical Society (1909). Biennial report of the Nevada Historical Society (arg. Public domain). State Printing Office. tt. 60–. Cyrchwyd 5 Chwefror 2012.
- ↑ "Hannah Keziah Clapp". University of Nevada, Reno. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-02-13. Cyrchwyd 3 Chwefror 2012.