Hannah Waddingham

actores

Actores, cantores a chyflwynydd teledu o Loegr yw Hannah Waddingham (ganwyd 28 Gorffennaf 1974)[1]. Mae hi'n fwyaf adnabyddus am ei rôl yn y gyfres deledu gomedi Ted Lasso (2020-presennol), ac enillodd sawl gwobr amdani. [2] Mae hi wedi ymddangos mewn sioeau yn y West End fel Spamalot. Mae hi wedi derbyn tri enwebiad Gwobr Olivier.

Hannah Waddingham
Ganwyd28 Gorffennaf 1974 Edit this on Wikidata
Wandsworth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
  • Academi'r Celfyddydau Byw ac a Recordiwyd
  • Streatham and Clapham High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr, actor llwyfan, actor ffilm Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Primetime Emmy i Actores Gefnogol Arbennig mewn Cyfres Gomedi Edit this on Wikidata

Cafodd Waddingham ei geni yn Wandsworth, Llundain, yn ferch i'r gantores opera Melodie Kelly. [3] Roedd Kelly yn aelod o’r English National Opera.[3] [4]

Graddiodd Waddingham o Academi Celfyddydau Byw a Recordiedig . [5] Dechreuodd ei gyrfa mewn theatr ginio, gan berfformio yn y comedi rhyngweithiol Joni a Gina's Wedding.[3][6]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Hannah Waddingham". timesofindia.indiatimes.com. Times of India.
  2. Schneider, Michael (18 Ionawr 2021). "'Ozark,' 'The Crown' and Netflix Lead 26th Annual Critics' Choice Awards TV Nominations". Variety (yn Saesneg). Cyrchwyd 18 IOnawr 2021. Check date values in: |access-date= (help)
  3. 3.0 3.1 3.2 Girimonte, Melissa (11 Tachwedd 2021). "Hannah Waddingham: Things Fans Might Not Know About The Ted Lasso Star". Looper. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2021.
  4. Hallemann, Caroline (23 Gorffennaf 2021). "Hannah Waddingham on the Gift of Ted Lasso". Town & Country (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Tachwedd 2021.
  5. "Space Family Robinson". London Theatre. Cyrchwyd 21 Awst 2020.
  6. Kirkland, Justin (23 Gorffennaf 2021). "A Few Glasses of Airplane Champagne With Ted Lasso's Hannah Waddingham". Esquire. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2021.