Hapax legomenon
Mewn ieitheg gorpws, gair yw hapax legomenon (lluosog: hapax legomena) sy'n ymddangos unwaith yn unig o fewn i gyd-destun, naill ai yng nghofnod ysgrifenedig yr holl iaith, yng ngweithiau awdur, neu mewn testun unigol. Mae'r term weithiau'n cael ei gam-ddefnyddio i ddisgrifio gair sydd yn ymddangos mewn un yn unig o weithiau awdur, ond yn ymddangos fwy nag unwaith o fewn i'r gwaith penodol hwnnw. Mae hapax legomenon yn tarddu o'r Groeg ἅπαξ λεγόμενον, sy'n golygu "(rhywbeth) yn cael ei ddweud unwaith (yn unig)".[1]
Mae'r termau perthnasol dis legomenon, tris legomenon, a tetrakis legomenon (/ˈdɪs/, /ˈtrɪs/, /ˈtɛtrəkɪs/) yn cyfeirio at ddefnydd ddwywaith, deirgwaith a phedair gwaith, ond yn anaml iawn y maent yn cael eu defnyddio.
Mae hapax legomena yn eitha cyffredin, fel y rhagwelwyd gan gyfraith Zipf,[2] sy'n datgan bod amlder unrhyw air mewn corpws yn groes gyfrannol i'w safle yn y tabl amlder. Ar gyfer corpora mawrion, mae tua 40% i 60% o'r geiriau yn hapax legomena, a 10% i 15% yn dis legomena.[3] Felly, yng Nghorpws Brown o Saesneg Americanaidd, mae tua hanner o'r 50,000 o eiriau gwahanol yn hapax legomena o fewn i'r corpws hwnnw.[4]
Cyfeiria Hapax legomenon at ymddangosiad gair mewn testun, ac nid i'w darddiad na'i amlygrwydd ar lafar. Mae'n wahanol felly i air untro, a fydd efallai byth yn cael ei roi ar gofnod, a allai gael ei ddefnyddio a'i gofnodi yn eang, neu yn ymddangos sawl gwaith yn y gwaith fydd yn ei fathu, ac yn y blaen.
Mewn testunau hynafol, fel arfer, mae hapax legomena yn anodd i'w dehongli, gan ei bod yn haws rhoi ystyr pan fydd gair wedi'i ddefnyddio mewn nifer o gyd-destunau.
Cyfeiriadau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ ἅπαξ. Liddell, Henry George; Scott, Robert; A Greek–English Lexicon at the Perseus Project
- ↑ Paul Baker, Andrew Hardie, and Tony McEnery, A Glossary of Corpus Linguistics, Edinburgh University Press, 2006, tud. 81, ISBN 0-7486-2018-4.
- ↑ András Kornai, Mathematical Linguistics, Springer, 2008, tud. 72, ISBN 1-84628-985-8.
- ↑ Kirsten Malmkjær, The Linguistics Encyclopedia, 2ed rhifyn, Routledge, 2002, ISBN 0-415-22210-9, t. 87.