Daearyddwr dynol o Gymro oedd yr Athro Harold Carter (14 Ebrill 192530 Tachwedd 2017).[1]

Harold Carter
Ganwyd14 Ebrill 1925 Edit this on Wikidata
Castell-nedd Edit this on Wikidata
Bu farw30 Tachwedd 2017 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethacademydd, daearyddwr, cultural geographer Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Ganwyd yng Nghastell-nedd. Daeth yn gynorthwy-ydd ymchwil yn Aberystwyth yn 1949 ac yna bu'n Athro Daearyddiaeth Dynol Gregynog o 1969 hyd 1983. Rhwng 1983 a'i ymddeoliad yn 1986 roedd yn Gyfarwyddwr Adran Daearyddiaeth Aberystwyth. Bu hefyd yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Yn ystod ei yrfa roedd yn Athro Gwadd ac yn hwyrach Athro Gwadd Nodweddol ym Mhrifysgol Cincinnati a llefydd eraill

Yn 1977 fe gyhoeddwyd damcaniaeth ffurfiad pedair dinas yn ei lyfr The Study of Urban Geography. Roedd hefyd yn arbenigwr ar y Gymraeg ac ym 1994 cyhoeddodd A Geography of the Welsh Language 1961-1991.

Cafodd ei dderbyn fel aelod o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Llanrwst 1989. Yn 2011 daeth yn aelod o'r Gymdeithas Ddysgiedig Cymru.[2]

Cyhoeddiadau

golygu
  • Harold Carter a Aitchison, John: A Geography of the Welsh Language 1961-1991. Cardiff: U of Wales P, 1994. ISBN 0-7083-1236-5
  • Harold Carter: The Study of Urban Geography. London: Arnold, 1972. ISBN 0-7131-5595-7

Cyfeiriadau

golygu
  1. Teyrnged i'r daearyddwr yr Athro Harold Carter , BBC Cymru Fyw, 30 Tachwedd 2017.
  2.  Harold Carter. Y Lolfa. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2017.