Harri Webb
Bardd Eingl-Gymreig, gweriniaethwr, a chenedlaetholwr oedd Harri Webb (7 Medi 1920 – 31 Rhagfyr 1994).
Harri Webb | |
---|---|
Ganwyd | 7 Medi 1920 ![]() Sgeti ![]() |
Bu farw | 31 Rhagfyr 1994 ![]() Abertawe ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, bardd ![]() |
Ganwyd Harri ar y 7fed o Fedi 1920 yn Abertawe, yn 45 Heol Ty Coch ar gyrion y dref. Yn 1938 enillodd ysgoloriaeth yr awdurdod addysg lleol, ac aeth i brifysgol Rhydychen i astudio ieithoedd, gan arbenigo mewn Ffrangeg,Sbaeneg a Phortiwgaleg.
Bu yn aelod o Fudiad Gweriniaethwyr Cymru, ac yna o'r Blaid Lafur. Ond gadawodd y blaid wedi ei siomi gan ei hymateb i hunanlywodraeth i Gymru a'i gwrth-Gymreigrwydd ac ymunodd â Phlaid Cymru yn 1958.
Ni welai Harri Webb ddim gwahanaieth rhwng swyddogaeth gwleidyddiaeth a llenyddiaeth. Ysgrifennai yn bennaf yn Saesneg ond daeth ei gerdd Colli Iaith a ganwyd gyntaf gan Heather Jones yn rhan o'r gynhysgaeth Gymraeg.
Llyfryddiaeth
golygu- The Stone Face and other poems, gol. M. Stephens (2005)
- Looking Up England's Arsehole: Patriotic Poems and Boozy Ballads, gol. M. Stephens (2000)
- A Militant Muse: Selected Literary Journalism (1998)
- No Halfway House: selected political journalism 1950-1977, gol. M. Stephens (1997)
- Collected Poems, gol. M. Stephens (1995)
- Tales from Wales (1984)
- Poems and Points (1983)
- Rampage and Revel (1977)
- A Crown for Branwen (1974)
- The Green Desert: collected poems 1950-1969 (1969; repr. 1976)
- Our National Anthem (1964)
- Triad (gyda M. Stephens, P. Griffith) (1963)
- Dic Penderyn and the Merthyr Upsrising of 1831 (1956)