Harry Dexter White

Economegydd Americanaidd oedd Harry Dexter White (29 Hydref 189216 Awst 1948) a weithiodd yn Adran Trysorlys yr Unol Daleithiau.

Harry Dexter White
Harry Dexter White (chwith) gyda John Maynard Keynes yn ystod cyfarfod cyntaf yr IMF (8 Mawrth 1946).
Ganwyd29 Hydref 1892 Edit this on Wikidata
Boston Edit this on Wikidata
Bu farw16 Awst 1948 Edit this on Wikidata
Fitzwilliam, New Hampshire Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
AddysgDoethur mewn Athrawiaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Frank William Taussig Edit this on Wikidata
Galwedigaetheconomegydd, gwleidydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Lawrence Edit this on Wikidata
PriodAnne Terry White Edit this on Wikidata

Ganed yn Boston, Massachusetts, i Iddewon a ymfudodd i Unol Daleithiau America o Lithwania. Gwasanaethodd ym Myddin yr Unol Daleithiau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Enillodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol Harvard ym 1930, ac addysgodd yng Ngholeg Lawrence yn Appleton, Wisconsin, o 1932 i 1934.

Symudodd White i Washington, D.C. ym 1934 i weithio yn arbenigwr ariannol yn Adran y Trysorlys. Fe'i penodwyd yn brif ddadansoddwr economaidd gan Gomisiwn Tariff yr Unol Daleithiau am gyfnod. Dychwelodd i'r Trysorlys i wasanaethu yn brif ddadansoddwr economaidd yn yr adran ymchwil ac ystadegau, a fe'i dyrchafwyd yn is-gyfarwyddwr ymchwil ym 1936, yn gyfarwyddwr ymchwil ariannol ym 1938, ac yn is-ysgrifennydd dros ymchwil ariannol a rheoli cronfeydd tramor ym 1945.

Wedi'r Ail Ryfel Byd, cafodd White ran flaenllaw wrth sefydlu'r drefn ariannol fyd-eang newydd. Yng Nghynhadledd Bretton Woods (1944), bu dadl rhwng cynigion White i reoli masnach ryngwladol ar sail y safon aur, a'r cynllun amgen a arddelwyd gan John Maynard Keynes. Enillwyd y ddadl gan gynllun White, a phenodwyd White yn gyfarwyddwr gweithredol y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF). White hefyd oedd prif awdur Cynllun Morgenthau, a wrthodwyd gan yr Arlywydd Franklin D. Roosevelt ym 1944.

Cyhuddwyd White ym 1948 o ddarparu cudd-wybodaeth i ysbiwyr yr Undeb Sofietaidd yn ystod y rhyfel, ac o gynorthwyo gweithwyr â thaliadau comiwnyddol yn Adran y Trysorlys. Cafwyd ymchwiliad gan Gyngres yr Unol Daleithiau, a bu farw White cyn diwedd yr ymchwiliad. Er nad oedd White erioed yn aelod o'r Blaid Gomiwnyddol, ceir tystiolaeth yr oedd yn hysbyswr i'r Sofietiaid mewn dogfennau o'r FBI ar sail negeseuon wedi eu datgodio gan Brosiect Venona.

Darllen pellach golygu

  • James M. Boughton, Harry White and the American Creed: How a Federal Bureaucrat Created the Modern Global Economy (and Failed to Get the Credit) (New Haven, Connecticut: Yale University Press, 2021).
  • Benn Steil, The Battle of Bretton Woods: John Maynard Keynes, Harry Dexter White, and the Making of a New World Order (Princeton, New Jersey: Princeton University Press, 2013).