Harry Potter and the Deathly Hallows – Part 1

ffilm ffantasi a seiliwyd ar nofel gan David Yates a gyhoeddwyd yn 2010

Ffilm ffantasi epig o 2010 a gyfarwyddwyd gan David Yates ac a ysgrifennwyd gan Steve Kloves ydy Harry Potter and the Deathly Hallows – Part 1 ("Harri Potter a'r Tri Pheth Marwol – Rhan 1"). Seiliwyd y ffilm ar y nofel o'r un enw gan J. K. Rowling. Cynhyrchwyd y ffilm gan Rowling ynghyd â David Heyman a David Barron. Dyma'r seithfed ffilm yn y gyfres, a rennir yn ddwy ran. Adrodda'r ffilm hanes Harry Potter wrth iddo geisio darganfod a dinistrio cyfrinach Lord Voldemort o anfarwoldeb sef y Horcruxiaid. Mae'r ffilm yn serennu Daniel Radcliffe fel Harry Potter, ynghyd â Rupert Grint ac Emma Watson fel ffrindiau gorau Harry, Ron Weasley a Hermione Granger. Mae'r ffilm hefyd yn serennu Rhys Ifans, Ralph Fiennes, Helena Bonham Carter, ac Alan Rickman.

Harry Potter and the Deathly Hallows – Part 1

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr David Yates
Ben Hibon (Tale of the Three Brothers – Part 1, Animeiddiedig)
Cynhyrchydd David Heyman
David Barron
J. K. Rowling
Ysgrifennwr Nofel:
J. K. Rowling
Sgript:
Steve Kloves
Serennu Daniel Radcliffe
Rupert Grint
Emma Watson
MicRalph Fiennes
Helena Bonham Carter
Alan Rickman
Cerddoriaeth Alexandre Desplat
Trefnwr:
Conrad Pope
Themâu:
John Williams
Sinematograffeg Eduardo Serra
Golygydd Mark Day
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Heyday Films
Warner Bros.
Amser rhedeg 146 munud
Gwlad Deyrnas Unedig
Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
Rhagflaenydd Harry Potter and the Half-Blood Prince
Olynydd Harry Potter and the Deathly Hallows – Part 2
(Saesneg) Proffil IMDb
Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.