Hatfield Chase
Ardal isel yn Ne Swydd Efrog a Gogledd Swydd Lincoln, yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, yw Hatfield Chase. Mae'n ffinio â traffordd yr M18 i'r gorllewin, Afon Ouse i'r gogledd, Afon Idle i'r de, a ffordd yr A161 i'r dwyrain. Mae'n cynnwys ardal o oddeutu 110 milltir sgwâr (280 km²).
Math | rhanbarth |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 53.528°N 0.893°W |
Yn y gorffennol roedd yn dir hela brenhinol. Oherwydd ei bod yn aml dan ddŵr, ym 1626 penododd Siarl I Cornelius Vermuyden, peiriannydd o'r Iseldiroedd, i'w draenio. Cafodd yr afonydd Don, Idle a Torne, eu dargyfeirio ac adeiladwyd sianeli draenio. Nid oedd y gwaith yn gwbl lwyddiannus, ond newidiodd holl natur darn eang o dir, ac achosodd anghydfodau cyfreithiol am weddill y ganrif.
Roedd mwy o waith adfer yn y 1760au, ac ym 1813 penodwyd gomisiynwyr gan y Senedd i wneud gwelliannau i'r draeniad. Fe wnaethant osod y pwmp stêm gyntaf. Sefydlwyd The Corporation of the Level of Hatfield Chase ym 1862. Gosododd y Gorfforaeth beiriant arall. Parhaodd mwy o waith peirianneg trwy'r 20g. Disodlwyd pympiau stêm gan beiriannau disel a phympiau trydan diweddarach. Ar hyn o bryd mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn cynnal wyth gorsaf bwmpio ar y Chase.
Mae'n debyg mai Hadfield Chase oedd lleoliad Brwydr Meicen oddeutu'r flwyddyn 632.