Haven Coleman
Ymgyrchydd hinsawdd o'r Unol Daleithiau yw Haven Coleman (g. 29 Mawrth 2006).[1][2] Hi yw cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr cydweithredol Streic Hinsawdd Ieuenctid UDA;[3] mae'r sefydliad dielw yma'n ymroddedig i godi ymwybyddiaeth a mynnu gweithredu dros yr argyfwng newid hinsawdd.[4] Fe’i sefydlodd ynghyd a'r ymgyrchwyr ifanc, Alexandria Villaseñor ac Isra Hirsi.[5] Cyhoeddir ei hysgrifau ym Mwletin y Gwyddonwyr Atomig.[6]
Haven Coleman | |
---|---|
Ganwyd | 2006 |
Dinasyddiaeth | UDA |
Galwedigaeth | disgybl ysgol, amgylcheddwr, ymgyrchydd hinsawdd |
Mae Haven Coleman yn bywyn Denver, Colorado[2] ac mae'n fyfyriwr yn Ysgol Gyhoeddus Denver.[7]
Gweithredu
golyguTrodd Coleman at amgylcheddiaeth yn gyntaf pan oedd hi'n ddeg oed, ar ôl dysgu bod ei hoff anifail, slothiau, yn lleihau o ran nifer, oherwydd datgoedwigo. Gwnaeth newidiadau sylweddol i'w ffordd o fyw a ysbrydolwyd gan fyw'n fwy cynaliadwy.[8] Bu hefyd ar gwrs hyfforddiant 'Prosiect Realiti Hinsawdd'.[9]
Ar ôl gweld actifiaeth amgylcheddol feiddgar Greta Thunberg a streiciau hinsawdd ieuenctid yn Ewrop, fe'i hysbrydolwyd i ddilyn ôl ei throed. Felly, ers Ionawr 2019,[4] pan oedd yn 13 oed, dechreuodd brotestio o flaen busnesau neu o flaen adeiladau'r llywodraeth,[10] megis Colorado State Capitol.[11] Bob dydd Gwener aeth ar streic i fynnu gweithredu gwleidyddol ynghylch ansawdd aer, gweithfeydd glo , ynni adnewyddadwy ac ati. Anfonodd e-bost hefyd at swyddogion etholedig ynghylch ei phryderon. Cafodd ei bwlio gan gyfoedion yn yr ysgol a oedd yn credu bod ei hymgyrchu amlwg yn rhyfedd.[8]
Arferai Coleman brotestio ar ei phen ei hun nes iddi allu sefydlu Streic Hinsawdd Ieuenctid yr Unol Daleithiau (US Youth Climate Strike) gyda Isra Hirsi ac Alexandria Villasenor.[12] Ers hynny, cynhaliwyd streiciau hinsawdd ar draws sawl taleithiau'r UDA.[13] Ar Fawrth 15, cynhaliwyd protest ieuenctid rhyngwladol gyda dros 120+ o wledydd.[14]
Aeth Coleman yn firaol ar ôl siarad â Seneddwr y wladwriaeth Cory Gardner am lygredd carbon yn neuadd y dref. Fe wnaeth hi ei annog i weithredu a chynigiodd drefnu mudiad llawr gwlad i hwyluso, ond gwrthododd Gardner.[10]
Wrth iddi wneud penawdau, daliodd sylw Al Gore, a wahoddodd Coleman i siarad yn yr ymgyrch 24 Awr Realiti (24 Hours of Reality) a drefnwyd gan The Climate Reality Project .[10]
Yn 2021 roedd Coleman yn gweithio ar Arid Agency, sydd â'r nod o gyflymu ymgyrchoedd amgylcheddol a chyfiawnder cymdeithasol.[15]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Skipping School Around The World To Push For Action On Climate Change". NPR.org (yn Saesneg). 14 Mawrth 2019. Cyrchwyd 2020-09-10.
- ↑ 2.0 2.1 CNN, Harmeet Kaur (15 Mawrth 2019). "She's 12 and she's trying to save the world by skipping school". CNN. Cable News Network. Cyrchwyd 10 Medi 2020.
- ↑ "19 youth climate activists you should be following on social media". Earth Day (yn Saesneg). 2019-06-14. Cyrchwyd 2020-09-10.
- ↑ 4.0 4.1 "Climate Reality Leader Haven Coleman Talks Today's Youth Climate Strike". Climate Reality (yn Saesneg). The Climate Reality Project. 15 Mawrth 2019. Cyrchwyd 10 Medi 2020.
- ↑ Nardino, Meredith. "Meet the 13-Year-Old Organizer of the US Youth Climate Strike". DoSomething.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-10.
- ↑ "Haven Coleman". Bulletin of the Atomic Scientists. Bulletin of the Atomic Scientists. Cyrchwyd 10 Medi 2020.
- ↑ Eastman, Katie (19 Medi 2019). "A Denver teen goes on strike for the climate every Friday – and this week, she will Mawrth with Greta Thunberg in NYC". KUSA.com. Cyrchwyd 10 Medi 2020.
- ↑ 8.0 8.1 Minutaglio, Rose (14 Mawrth 2019). "The World Is Burning. These Girls Are Fighting to Save It". ELLE. Hearst Magazine Media, Inc. Cyrchwyd 10 Medi 2020.
- ↑ Borunda, Alejandra (13 Mawrth 2019). "These young activists are striking to save their planet from climate change". Environment (yn Saesneg). National Geographic Partners, LLC. Cyrchwyd 10 Medi 2020.
- ↑ 10.0 10.1 10.2 Kutz, Jessica (23 Chwefror 2019). "Meet the 12-year-old activist taking politicians to task over climate change". Grist. Grist Magazine, Inc. Cyrchwyd 10 Medi 2020.
- ↑ Budner, Ali (13 Mawrth 2019). "Meet the Mountain West Teens Organizing the U.S. Youth Climate Strike". Elemental. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-17. Cyrchwyd 10 Medi 2020.
- ↑ Li, Ang (14 Mawrth 2019). "'It Will Be Too Late for My Generation.' Meet the Young People Organizing a Massive Climate Change Protest". Time. Time Inc. Cyrchwyd 10 Medi 2020.
- ↑ Budner, Ali (12 Mawrth 2019). "Meet The Mountain West Teens Organizing The US Youth Climate Strike". Colorado Public Radio (yn Saesneg). Colorado Public Radio. Cyrchwyd 10 Medi 2020.
- ↑ Barclay, Eliza; Amaria, Kainaz (15 Mawrth 2019). "Photos: kids in 123 countries went on strike to protect the climate". Vox (yn Saesneg). Vox Media, LLC. Cyrchwyd 10 Medi 2020.
- ↑ "Haven Coleman". SXSW EDU 2020 Schedule (yn Saesneg). SXSW, LLC. Cyrchwyd 2020-09-10.