Hawliau LHDT ym Mhacistan

Nid oes gan drigolion Pacistan lawer o hawliau LHDT (pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, a Thrawsryweddol). Ers 6 Hydref, 1860, mae wedi bod yn anghyfreithlon i gymryd rhan mewn gweithredoedd cyfunrywiol, sef y cysylltiad rhywiol gyda pherson o'r un rhyw. Yn wahanol i'r wlad gyfagos, India, nid yw'r gyfraith hon, sydd yn ei gwneud yn anghyfreithlon wedi'i diddymu hyd yma (2016). Caiff cyfunrywioldeb hefyd ei ystyried fel tabŵ ym Mhacistan.

Delwedd:LGBT flag of Pakistan.png
baner LGBT Pakistan

Nid oedd y crefyddau mawr ym Mhacistan yn cymeradwyo o gwrywgydiaeth. Oherwydd hyn, mae llawer o bobl yn y wlad yn gwrthwynebu cyfunrywioldeb a mathau eraill o dueddfryd rhywiol. Er bod Pacistan yn swyddogol yn Weriniaeth Islamaidd, mewn gwirionedd, mae'n wlad seciwlar i raddau helaeth, heb fod yn grefyddol. Mae ganddi lawer o gyfreithiau a etifeddodd oddi wrth y Prydeinwyr. Mae yna duedd tuag at feddwl yn fwy rhydd, fodd bynnag, ac adlewyrchir barn fydeang, rhyddfrydol ac mae goddefgarwch cymdeithasol hefyd yn cynyddu. Oherwydd hyn, mae partïon hoyw, cyhoeddus wedi bod yn digwydd yn y wlad, ac ar gynnydd, ers nifer o flynyddoedd.[1]

Nid yw Cyfansoddiad Pakistan yn crybwyll yn benodol cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth o ran rhywedd ond mae rhai rhannau yn y Cyfansoddiad a allai effeithio ar hawliau dinasyddion Pacistanaidd LHDT.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Walsh, Declan (2006-03-14). "Pakistani society looks other way as gay men party". London: The Guardian Newspaper. Cyrchwyd 2008-05-05.