Haya Harareet
actores a aned yn Haifa yn 1931
Roedd Haya Harareet (20 Medi 1931 – 3 Chwefror 2021[1]) yn actores o Israel. Roedd hi'n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Esther, yn y ffilm Ben Hur.[2]
Haya Harareet | |
---|---|
Ganwyd | חיה נויברג 20 Medi 1931 Haifa |
Bu farw | 3 Chwefror 2021 Marlow |
Dinasyddiaeth | Israel |
Galwedigaeth | sgriptiwr, actor llwyfan, actor ffilm, actor |
Priod | Jack Clayton |
Cafodd ei geni yn Haifa, fel Haya Neuberg. Priododd y peiriannydd Nachman Zerwanitzer. Priododd fel ei ail gŵr y cyfarwyddwr ffilm Seisnig Jack Clayton (m. 1995). Bu farw yn Swydd Buckingham, yn 89 oed.
Ffilmiau
golygu- Hill 24 Doesn't Answer (1955)
- The Doll that Took the Town (1957)
- Ben Hur (1959)
- L'Atlantide (1961)
- The Secret Partner (1961)
- The Interns (1962)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Anderman, Nirit (3 Chwefror 2021). "'Ben-Hur' Star, Israeli Actress Haya Harareet, Dies". Haaretz (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Chwefror 2021.
- ↑ Burton, Alan; O'Sullivan, Tim (2009). The Cinema of Basil Dearden and Michael Relph (yn Saesneg). Edinburgh University Press. t. 135. ISBN 978-0-7486-3289-3 – drwy Google Books.