Nofel Almaeneg am ddigwyddiadau ym mywyd geneth ifanc sy'n byw yng ngofal ei thaid yn Alpau'r Swistir yw Heidi (teitl llawn gwreiddiol: Heidis Lehr- und Wanderjahre "Blynyddoedd Crwydro a Dysgu Heidi"). Ysgrifennwyd y nofel, a gyhoeddwyd yn 1880 ac a ystyrir yn un o glasuron llenyddiaeth plant, gan yr awdures Swisaidd Johanna Spyri. Cafwyd dau olyniant Saesneg gan Charles Titten, a gyfieithodd y nofel Heidi o'r Almaeneg i'r Saesneg, sef Heidi Grows Up (Heidi yn tyfu i fyny) a Heidi's Children (Plant Heidi).

Heidi
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurJohanna Spyri Edit this on Wikidata
GwladY Swistir Edit this on Wikidata
IaithAlmaeneg, Almaeneg y Swistir Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1880 Edit this on Wikidata
Genrenofel i blant Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiY Swistir Edit this on Wikidata
Prif bwncplentyn amddifad Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithY Swistir, yr Almaen, Alpau Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Erthygl am y nofel yw hon. Gweler hefyd Heidi (gwahaniaethu).

Gwnaethpwyd addasiad o'r nofel i'r Gymraeg gan Gwenno Hywyn. Gwasg Mynydd Mawr a gyhoeddodd y gyfrol yn y gyfres Clasuron Mawr y Plant a hynny yn 1983.

Clawr Heidi
Eginyn erthygl sydd uchod am nofel i blant. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.