Helen Prosser

athrawes o Gymru; cyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith

Athrawes o Gymru yw Helen Elizabeth Prosser (ganwyd Awst 1962)[1], sy'n Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.[2] Roedd hi'n Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith rhwng 1987 a 1989.

Cafodd ei geni yn Nhonyrefail. Astudiodd y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae hi wedi treulio ei gyrfa yn dysgu’r Gymraeg i oedolion mewn sawl prifysgol yng Nghymru. [3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Helen Elizabeth Prosser". Companies House (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Awst 2024.
  2. "Staffio". Dysgucymraeg.cymru. Cyrchwyd 13 Awst 2024.
  3. "Cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Diwtor Dysgu Cymraeg". Prifysgol Aberystwyth. 18 Gorffennaf 2023. Cyrchwyd 13 Awst 2024.
  Eginyn erthygl sydd uchod am y Gymraeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.