Yr Hen Deyrnas

(Ailgyfeiriad o Hen Deyrnas)

Yr Hen Deyrnas yw'r enw a roddir i'r cyfnod rhwng tua 2686 CC a 2134 CC yn hanes yr Hen Aifft.

Pyramidau Giza, adeiladau enwocaf yr Hen Deyrnas

Syniad a ddatblygwyd gan eifftolegwyr yn y 19g oedd rhannu hanes yr Hen Aifft yn nifer o deyrnasoedd; nid oedd yr hen Eifftwyr ei hunain yn meddwl am eu hanes fel hyn. Ystyrir bod yr Hen Deyrnas yn cynnwys brenhinoedd y Trydydd Brenhinllin hyd y Chweched Brenhinllin.

Roedd prifddinas yr Aifft ym Memphis yn y cyfnod yma. Yn ystod yr Hen Deyrnas yr adeiladwyd Pyramidau'r Aifft.

Brenhinoedd yr Hen Deyrnas

golygu

3ydd Brenhinllin 2686 CC – 2613 CC

golygu
Enw Nodiadau Dyddiadau (CC)
Sanakhte - 2686 - 2668
Djoser Yn gyfrifol am Pyramid Djoser a gynlluniwyd gan Imhotep 2668 - 2649
Sekhemkhet - 2649 - 2643
Khaba - 2643 - 2637
Huni - 2637 - 2613

4ydd Brenhinllin

golygu
Nomen (Praenomen) Nodiadau Dyddiadau (CC)
Sneferu Adeiladodd y Pyramid Cam, pyramid lle mae’r ongl yn newid ran o’r ffordd I fyny’r adeilad. Roedd hefyd yn gyfrifol am adeiladu’r Pyramid Coch. 2613 - 2589
Khufu Groeg : Cheops. Adeiladodd y Pyramnid Mawr yn Giza. 2589 - 2566
Djedefra (Radjedef) - 2566 - 2558
Khafra Groeg: Chephren 2558 - 2532
- mae rhai ffynonellau yn rhoi Bikheris yma, yn dilyn Manetho -
Menkaura Groeg: Mycerinus 2532 - 2503
Shepseskaf - 2503 - 2498
- mae rhai ffynonellau yn rhoi Thampthis yma, yn dilyn Manetho -

5ed Brenhinllin 2498 CC - 2345 CC

golygu
Enw Nodiadau Dyddiadau (CC)
Userkaf - 2498 - 2491
Sahure - 2487 - 2477
Neferirkare Kakai - 2477 - 2467
Shepseskare Isi - 2467 - 2460
Neferefre - 2460 - 2453
Nyuserre Ini - 2453 - 2422
Menkauhor Kaiu - 2422 - 2414
Djedkare Isesi - 2414 - 2375
Unas - 2375 - 2345

6ed Brenhinllin 2345 CC - 2181 CC

golygu
Enw Nodiadau Dyddiadau (CC)
Teti - 2345 - 2333
Userkare - 2333 - 2332
Pepi I Meryre - 2332 - 2283
Merenre Nemtyemsaf I - 2283 - 2278
Pepi II Neferkare Efallai hyd 2224 2278 - 2184
Neferka(plentyn) Efallai mab Pepi II a/neu yn gyd-frenin 2200 - 2199
Nefer Teyrnasodd am 2 flynedd, mis a diwrnod yn ôl canon Turin 2197 - 2193
Aba 4 blynedd 2 fis. Ansicr. 2293 - 2176
Anadnabyddus Brenin dienw
Merenre Nemtyemsaf II Ansicr 2184
Nitiqret Merch. Ansicr. 2184 - 2181

Gweler hefyd

golygu