Hen Roeg (iaith)

iaith

Ffurf hynafol ar yr iaith Roeg yw Hen Roeg a siaredid yng Ngroeg yr henfyd o'r 9g CC i'r 6g OC. Rhennir yn fras yn gyfnodau Hynafol (9g i'r 6g CC), Clasurol (5g a'r 4g CC), ac Helenistaidd (3g CC i'r 6g OC). Rhagflaenir gan Roeg Fyseneaidd yn yr ail fileniwm CC.

Dechreuad yr Odyseia gan Homeros.

Gelwir iaith yr oes Helenistaidd yn Roeg Coine ("cyffredin"), sef iaith y Testament Newydd. Ar ei ffurf gynharaf, mae Coine yn debyg iawn i Roeg Atica, ac ar ei ffurf ddiweddaraf yn dynesu at Roeg yr Oesoedd Canol. Cyn y cyfnod Coine, rhennir yr iaith glasurol yn sawl tafodiaith.

Yr Hen Roeg oedd iaith Homeros ac hanesyddion, dramodwyr, ac athronwyr Athenaidd y 5g CC. Benthycir nifer o eiriau mewn ieithoedd Ewropeaidd o'r Hen Roeg, ac astudiasai'r iaith, yn aml ynghyd â Lladin, mewn ysgolion a phrifysgolion Ewrop ers y Dadeni Dysg.