Henebion Cefn Penagored

Carneddi ymylfaen ydy henebion Cefn Penagored, Llandrillo, Sir Ddinbych sy'n dyddio'n ôl i Oes yr Efydd; cyfeiriad grid SJ038336 a cyfeiriad grid SJ041335. Arferai'r cerrig gynnal tomeni o bridd a beddrodau yn eu canol, ond fod amser wedi treulio'r pridd gan adael ysgerbydau o gerrig ar ffurf cylchoedd. Dylid cofio nad cylchoedd cerrig fel y cyfryw ydynt, fodd bynnag. Mae'n bosibl i seremoniau neu ddefodau hefyd gael eu cynnal ar y safle.[1]

Henebion Cefn Penagored
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru

Mae'r henebau hyn wedi'i chofrestru gan Cadw gyda'r rhif SAM: DE256 a DE257.

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato