Cyngor yr Ucheldir
(Ailgyfeiriad oddi wrth Highland)
Ardal Cyngor yr Ucheldir (Gaeleg yr Alban: Sgìre Comhairle na Gàidhealtachd, Saesneg: Highland Council) yng ngogledd yr Alban yw'r fwyaf o ran arwynebedd o holl raniadau llywodraeth leol yr Alban a Phrydain o bell ffordd (arwynebedd 30,659 km², cymharer: Cymru gyfan 20,779 km²).
![]() | |
![]() | |
Math |
un o gynghorau'r Alban ![]() |
---|---|
| |
Prifddinas |
Inverness ![]() |
Poblogaeth |
235,540 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad |
Ucheldiroedd yr Alban ![]() |
Sir |
Yr Alban ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
25,657.1465 km² ![]() |
Cyfesurynnau |
57.5°N 5°W ![]() |
Cod SYG |
S12000017 ![]() |
GB-HLD ![]() | |
![]() | |

Castell Eilean Donan yn Loch Duich.
Nid yw'r ardal a reolir gan y Cyngor yn cyfateb i ardal ddaearyddol Ucheldiroedd yr Alban. Mae rhannau o ardal ddaearyddol yr Ucheldiroedd yn dod dan awdurdodau Moray, Swydd Aberdeen, Perth a Kinross, Argyll a Bute, Angus a Stirling. Mae ardal y Cyngor yn cynnwys y rhan fwyaf o Ynysoedd Mewnol Heledd.
Crewyd y Cyngor fel awdurdod rhanbarthol yn 1975, a daeth yn awdurdod unedol yn 1996. Y brif dref yw Inverness.