Hilaire Belloc
Llenor Eingl-Ffrengig oedd Joseph Hilaire Pierre René Belloc (27 Gorffennaf 1870 – 16 Gorffennaf 1953). Awdur hynod o doreithiog ac amryddawn ydoedd a ysgrifennai ysgrifau, gweithiau hanesyddol a bywgraffiadau, llyfrau taith, traethodau ar bynciau crefyddol a gwleidyddol, rhyddiaith ddychanol, straeon a rhigymau i blant, a barddoniaeth ddigrif. Cyhoeddodd mwy na 150 o lyfrau yn ystod ei oes.
Hilaire Belloc | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Joseph Hilaire Pierre René Belloc ![]() 27 Gorffennaf 1870 ![]() La Celle-Saint-Cloud ![]() |
Bu farw | 16 Gorffennaf 1953 ![]() Guildford ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Ffrainc, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, bardd, gwleidydd, newyddiadurwr, hanesydd, cofiannydd ![]() |
Swydd | Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, arlywydd ![]() |
Arddull | traethawd ![]() |
Prif ddylanwad | John Henry Newman, G. K. Chesterton ![]() |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol ![]() |
Tad | Louis Belloc ![]() |
Mam | Bessie Rayner Parkes ![]() |
Priod | Elodie Agnes Hogan Belloc ![]() |
Plant | Eleanor Belloc, Louis Belloc, Peter Gilbert Marie Sebastian Belloc ![]() |
Llinach | Belloc family ![]() |
Gwobr/au | Knight Commander with Star of the Order of St. Gregory the Great, Taylorian Lecture ![]() |
llofnod | |
![]() |
Bywgraffiad
golyguBywyd cynnar
golyguGanwyd yn La Celle-Saint-Cloud yn hen département Seine-et-Oise, Ffrainc, ger y brifddinas Paris. Ffrancwr oedd ei dad a Saesnes oedd ei fam. Ei chwaer hŷn oedd Marie, yn ddiweddarach y nofelydd Marie Belloc Lowndes. Bu'n rhaid i'r teulu ffoi i Loegr oherwydd Rhyfel Ffrainc a Phrwsia. Bu farw ei dad yn 1872, a threuliodd ei fagwraeth yn Lloegr y bennaf.
Mynychodd ysgol breswyl Gatholig yr Oratory yn Birmingham, a gadawodd yn 1887. Gweithiodd am gyfnod fel newyddiadurwr cyn iddo wasanaethu yn Llynges Ffrainc. Cafodd waith hefyd fel stiward ar diroedd Dug Norfolk a drafftsmon pensaernïol cyn iddo fynd i'r brifysgol yn 1892. Astudiodd hanes yng Ngholeg Balliol, Rhydychen, a derbyniodd ei radd yn 1895. Yno bu'n Llywydd Undeb Rhydychen, y gymdeithas ddadlau. Priododd yr Americanes Elodie Hogan yn 1896.
Gyrfa wleidyddol
golyguDaeth Belloc yn ddeiliad Prydeinig yn 1902. Ymunodd â'r Blaid Ryddfrydol a chafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Dde Salford yn 1906. Gadawodd y Senedd yn 1910.
Ffrindiau a ffraeon
golyguUn o gyfeillion agosaf Belloc oedd G. K. Chesterton, a chynhyrchwyd cyfnodolyn ceidwadol wythnosol, y New Witness, gan y ddau lenor o 1911 ymlaen. Gelwid y pâr yn "Chesterbelloc" gan George Bernard Shaw.
O ganlyniad i'w weithiau polemig, bu Belloc yn aml yn ymgecru â dynion amlwg eraill. Un o'r gelyniaethau ffyrnicaf oedd rhyngddo a H. G. Wells, a ffrwydrodd wedi i Belloc ysgrifennu ymateb i'r Outline of History gan Wells yn 1926.
Diwedd ei oes
golyguYmsefydlodd yn Sussex am y mwyafrif o'i oes, er iddo deithio'n fynych drwy gydol ei fywyd. Roedd yn hoff o hwylio cychod.
Dioddefodd Belloc gyfres o strociau yn y 1940au, a bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'w waith. Treuliodd deng mlynedd olaf ei oes yn ei gartref King's Land, melin geitlen ym mentref Shipley, Gorllewin Sussex. Bu farw yn 82 oed mewn cartref nyrsio yn Guildford, Surrey, ychydig dyddiau wedi iddo ddioddef llosgiadau o'r tân yn ei astudfa.
Ei gredoau a'i ysgrifau crefyddol
golyguPabydd pybyr oedd Belloc ers ei ieuenctid. Yn ystod ei ddyddiau ysgol daeth i sylw'r Cardinal John Henry Newman, sefydlydd yr Oratory. Pan oedd yn ddyn ifanc, daeth Belloc i adnabod y Cardinal Henry Edward Manning a gafodd ddylanwad cryf arno. Effeithiodd ei daliadau Catholig ar ei holl waith llenyddol, bron. Un o'i lyfrau enwocaf yw The Path to Rome (1902), llyfr taith sydd yn drwm yn ei fyfyrdodau ysbrydol.
Barddoniaeth a ffuglen
golyguYsgrifennodd Belloc sawl cyfrol o farddoniaeth frathog ac afiach i blant: The Bad Child's Book of Beasts (1896), More Beasts (for Worse Children) (1897), a Cautionary Tales for Children (1907), yr olaf o'r rhain sydd yn boblogaidd hyd heddiw. Ysgrifennodd nifer o gerddi tebyg i oedolion a gesglid yn Verses and Sonnets (1896), The Modern Traveller (1898), Heroic Poem in Praise of Wine (1932), a chyfrolau eraill.
Ysgrifennodd Belloc sawl nofel ddychanol, a ddarluniwyd ambell un gan G. K. Chesterton.
Llyfrau hanes a bywgraffiadau
golyguYsgrifennodd Belloc nifer o lyfrau hanes, er bod ei daliadau crefyddol yn aml yn llywio'i waith. Ymhlith ei fywgraffiadau mae Danton (1899), Robespierre (1901), James II (1928), Wolsey (1930), Charles I (1933), Cromwell (1934), a Charles II (1939).
Ysgrifau gwleidyddol ac economaidd
golyguBelloc a'i gyfaill G. K. Chesterton oedd arloeswyr pennaf dosraniadaeth, ideoleg economaidd o safbwynt Catholig sydd yn gwrthod cyfalafiaeth a sosialaeth Ffabiaidd fel ei gilydd. Lluniodd Belloc ei athroniaeth economaidd yn The Servile State (1912).
Edmygai Belloc syniadau gwleidyddol ac economaidd William Cobbett, newyddiadurwr ac Aelod Seneddol radicalaidd o'r 19g.
Darllen pellach
golygu- Jay P. Corrin, G. K. Chesterton and Hilaire Belloc: The Battle against Modernity (Athens, Ohio: Ohio University Press, 1981).
- Rober Hamilton, Hilaire Belloc: An Introduction to His Spirit and Work (Llundain: Douglas Organ, 1945).
- Eleanor Jebb a Reginald Jebb, Belloc, the Man (Westminster, Maryland: Newman Press, 1957).
- John P. McCarthy, Hilaire Belloc: Edwardian Radical (Indianapolis: Liberty Press, 1973).
- J. B. Morton, Hilaire Belloc: A Memoir (Efrog Newydd: Sheed & Ward, 1955).
- Robert Speaight, The Life of Hilaire Belloc (Llundain: Hollis & Carter, 1957).
- Frederick Wilhelmsen, Hilaire Belloc: No Alienated Man (Efrog Newydd: Sheed & Ward, 1953).
- A. N. Wilson, Hilaire Belloc: A Biography (Llundain: Hamish Hamilton, 1984).