Hildegard Hammerschmidt-Hummel
Awdur o'r Almaen yw Hildegard Hammerschmidt-Hummel (ganwyd 21 Ionawr 1944) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ysgolhaig llenyddol ac yn brifathro prifysgol sy'n arbenigo ar waith Shakespeare. Mae'n honni ei bod wedi dod o hyd i atebion pendant i lawer o'r problemau heb eu datrys, o fywyd a gyrfa lenyddol Shakespeare, gan ddefnyddio dulliau ymchwil trawsddisgyblaethol e.e. crefydd Shakespeare a phwy oedd 'arglwyddes dywyll' ei sonedau.[1]
Hildegard Hammerschmidt-Hummel | |
---|---|
Ganwyd | 21 Ionawr 1944 Bad Wünnenberg |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ysgolhaig llenyddol, academydd, ysgrifennwr |
Cyflogwr |
Fe'i ganed yn Bad Wünnenberg ar 21 Ionawr 1944. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Marburg a Phrifysgol Mainz.[2]
Myfyriwr golygu
Astudiodd Hammerschmidt-Hummel ym Mhrifysgol Marburg, gan dderbyn ei PhD mewn llenyddiaeth Saesneg ym 1972. Yn 1977, ym Mhrifysgol Mainz, rhoddwyd iddi'r venia legendi ac mae wedi dysgu llenyddiaeth Saesneg ac astudiaethau diwylliannol yno ers hynny (y sylw hwn: 2019).
Gyrfa golygu
Rhwng 1979 a 1982, bu'n gwasanaethu fel Conswl dros Faterion Diwylliannol yn llysgenhadaeth yr Almaen yn Toronto. Rhwng 1982 a 2005, yr Athro Hammerschmidt-Hummel oedd yr uwch ysgolhaig ymchwil a golygydd prosiect 'Darlunio Shakespeare' ac ehangodd ei archifau'n fawr ar ôl i sylfaenydd yr archif, yr Athro Horst Oppel, farw ym 1982.
Beirniadaeth golygu
Mae gwaith Hammerschmidt-Hummel wedi'i feirniadu'n hallt. Dywedodd Tarnya Cooper o'r Oriel Bortreadau Genedlaethol fod barn Hammerschmidt-Hummel yn seiliedig ar "gamddealltwriaeth sylfaenol o gelf weledol".[3]
Cyhoeddiadau golygu
- The Life and Times of William Shakespeare, 1564-1616. Llundain: Chaucer Press, 2007
- The True Face of William Shakespeare: The Poet's Death Mask and Likenesses from Three Periods of His Life. Llundain: Chaucer Press, 2006
- Die Shakespeare-Illustration (1594-2000) (Shakespearian illustrations, 1594 to 2000). Wiesbaden: Harrassowitz Verlag, 2003, 3 vols.
- Die verborgene Existenz des William Shakespeare: Dichter und Rebell im katholischen Untergrund (The Hidden Life of William Shakespeare: Poet and Rebel in the Catholic Underground). Freiburg im Breisgau: Verlag Herder, 2001.
- Das Geheimnis um Shakespeares 'Dark Lady': Dokumentation einer Enthüllung (The Secret Surrounding Shakespeare's Dark Lady: Uncovering a Mystery). Darmstadt: Wissenschaftliche Buchgesellschaft und Primus Verlag, 1999.
Anrhydeddau golygu
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Kurt Otten, "Hildegard Hammerschmidt-Hummel, Wiesbaden, zum 60. Geburtstag" [Porträts], Anglistik. Mitteilungen des Deutschen Anglistenverbandes 16:1 (2005), tt. 217-221, t. 220-1.
- ↑ Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014
- ↑ Reynolds, Nigel. "Lump above eye that 'killed Shakespeare'". The Telegraph, 23 Feb 2006. Adalwyd 22 Hydref 2012.