Holosen
Cyfres neu Epoc ddaearegol ydy Holocen a gychwynodd tua 12,000 blwyddyn yn ôl hyd at y presennol; mae'n dilyn y Pleistosen[1]. Mae'r rhan o'r cyfnod Chwarteraidd.
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | epoc, cyfres ![]() |
Rhan o | Cwaternaidd, ICS Standard Global Chronostratigraphic (Geochronologic) Scale ![]() |
Dechreuwyd | 117 g CC ![]() |
Rhagflaenwyd gan | Pleistosen ![]() |
Yn cynnwys | Meghalayan, Northgrippian, Greenlandian ![]() |
![]() |
Israniadau y System Cwaternaidd | |||
---|---|---|---|
Cyfnod | Epoc | Oes | Oed (Miliwn o flynyddoedd CP) |
Cwaternaidd | Holosen | 0.0117–0 | |
Pleistosen | Tarantian | 0.126–0.0117 | |
Ionian | 0.781–0.126 | ||
Calabrian | 1.80–0.781 | ||
Gelasian | 2.58–1.80 | ||
Neogen | Pliosen | Piacenzian | older |
Yn Ewrop a Gogledd America, rhennir yr Holocen i gyfnodau ar Raddfa Blytt-Sernander, fel a ganlyn: Preboreal, Boreal, Iwerydd, Isogledd, a Tan-Iwerydd. Ceir hefyd israniadau lleol, sydd fel arfer wedi'u mesur o ran tymheredd: cyfnodau oer (rhewlifol) a chyfnodau cynnes (rhyngrewlifol). Mae'r cyfnod rhewlifol olaf yn gorffen gyda Younger Dryas, sy'n gyfnod oer. |
Tardd yr enw o'r geiriau Groeg ὅλος (holos, "cyfan") a καινός (kainos, newydd); a'r cyfieithiad llythrennol, felly, ydy "popeth cyfredol neu gyfoes".
Caiff yr Holosen ei gysylltu gyda'r cyfnod cynnes, presennol, a adnabyddir gan naturiaethwyr a biolegwyr fel Marine Isotope, Stage 1, a daw'r dystiolaeth o hanes elfennau gymharol ddiweddar o'r ddaear, megis rhewlifau a ffurfiwyd yn ystod yr Oes iâ presennol. Nodwedd arall ohono yw datblygiad yr hil Ddynol, a'u heffaith ar amgylchedd y Ddaear a'r dull y maent wedi cofnodi ei hanes. Oherwydd hyn, bathwyd term arall (yn answyddogol) sef Anthroposen er mwyn cynnwys yr elfen yma o effaith dyn ar ecosystemau bregys y Ddaear, gan fod yr effaith hwn ar fioamrywiaeth mor sylweddol.

Y cyd-destyn ehangachGolygu
Mae'r cyfnod hwn yn dilyn yr oes iâ diwethaf, sef y Wisconsinan Glacial Period. the Baltic-Scandinavian Ice Age, or the Gellir ei rannu'n bump israniad o ran newidiadau o bwys yn yr hinsawdd:
- Cyn-Foreaidd (Preboreal) (10 ka – 9 ka),
- Boreaidd (Boreal period) (9 ka – 8 ka),
- Cyfnod Cefnfor yr Iwerydd (Atlantic period) (8 ka – 5 ka),
- Is-Foreaidd (Subboreal period) (5 ka – 2.5 ka) and
- Is-Gefnofor yr Iwerydd (cyfnod) (2.5 ka – presennol).
- Nodyn: Ystyr "ka" yw "mil o flynyddoedd".
Gweler hefydGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ "International Stratigraphic Chart" (PDF). International Commission on Stratigraphy. Cyrchwyd 2009-12-23.