Holosen

(Ailgyfeiriad o Holocene)

Epoc daearegol ydy Holosen a gychwynodd tua 12,000 blwyddyn yn ôl hyd at y presennol; mae'n dilyn y Pleistosen[1]. Mae'r rhan o'r cyfnod Chwarteraidd.

Holosen
Enghraifft o'r canlynolepoc, cyfres Edit this on Wikidata
Rhan oCwaternaidd, Graddfa Cronostratigraffig Fyd-eang Safonol (Daeargronolegol) ICS Edit this on Wikidata
Dechreuwyd117 g CC Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganPleistosen Edit this on Wikidata
Yn cynnwysMeghalayan, Northgrippian, Greenlandian Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Israniadau y System Cwaternaidd
Cyfnod Epoc Oes Oed
(Miliwn o flynyddoedd CP)
Cwaternaidd Holosen 0.0117–0
Pleistosen Tarantian 0.126–0.0117
Ionian 0.781–0.126
Calabrian 1.80–0.781
Gelasian 2.58–1.80
Neogen Plïosen Piacenzian hynach
Yn Ewrop a Gogledd America, rhennir yr Holosen i oesoedd ar raddfa Blytt-Sernander, fel a ganlyn: cyn-Foreaidd, Boreaidd, Atlantaidd, Isforeaidd ac Isatlantaidd. Ceir hefyd is-epocau Pleistosenaidd lleol, sydd fel arfer wedi'u mesur o ran tymheredd: is-gyfnodau rhewlifol a rhyng-gyfnodau cynhesol. Mae'r is-gyfnod rhewlifol diwethaf yn gorffen gyda'r Dryas Ieuaf / Diweddar.

Tardd yr enw o'r geiriau Groeg holos (ὅλος) ‘cyfan’ a kainos (καινός) ‘newydd, diweddar’; a'r cyfieithiad llythrennol, felly, ydy ‘hollol newydd, cwbl ddiweddar’.

Caiff yr Holosen ei gysylltu gyda'r cyfnod cynnes, presennol, a adnabyddir gan naturiaethwyr a biolegwyr fel Marine Isotope, Stage 1, a daw'r dystiolaeth o hanes elfennau gymharol ddiweddar o'r ddaear, megis rhewlifau a ffurfiwyd yn ystod yr Oes Iâ Fawr. Nodwedd arall ohono yw datblygiad bodau dynol, a'u heffaith ar amgylchedd y Ddaear a'r dull y maent wedi cofnodi ei hanes. Oherwydd hyn, bathwyd term arall (yn answyddogol) sef Anthroposen er mwyn cynnwys yr elfen yma o effaith dyn ar ecosystemau bregys y Ddaear, gan fod yr effaith hwn ar fioamrywiaeth mor sylweddol.

Map dychmygol o gyfnod cynnar yr Holosen tua 9,000 o flynyddoedd yn ôl; Ynys Prydain, y gwledydd Sgandinafaidd a Môr y Gogledd.

Y cyd-destyn ehangach

golygu

Mae'r epoc hwn yn dilyn yr Oes Iâ ddiwethaf, sef y Wisconsinan Glacial Period. the Baltic-Scandinavian Ice Age, or the Gellir ei rannu'n bump is-epocau o ran newidiadau o bwys yn yr hinsawdd:

Nodyn: Ystyr "ka" yw "mil o flynyddoedd".

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "International Stratigraphic Chart" (PDF). International Commission on Stratigraphy. Cyrchwyd 2009-12-23.