Honoré Daumier
Arlunydd, cerflunydd a chartwnydd o Ffrancwr oedd Honoré Daumier (26 Chwefror 1808 – 10 Chwefror 1879). Roedd yn enwog am ei wawdluniau o wleidyddwyr Ffrainc yn y 19g. Ym 1830 dechreuodd gyfrannu cartwnau at y cyfnodlyn Caricature; fe'i garcharwyd am gyfnod byr ym 1832 am wawdio'r brenin Louis-Philippe. Gwaharddwyd dychan gwleidyddol yn Ffrainc ym 1835 a bu'n rhaid i Daumier droi at ddychanu bywyd cyfoes. Dychwelodd at ddychan gwleidyddwyr Ffrainc yn y chwyldro a fu yn Ffrainc ym 1848.
-
Cartŵn Daumier yn dychan y brenin Louis-Philippe fel cymeriad François Rabelais, Pantagruel
Honoré Daumier | |
---|---|
Ffugenw | Daumier, Honore, Daumier, Honore Victorin |
Ganwyd | 26 Chwefror 1808 Marseille |
Bu farw | 10 Chwefror 1879 Valmondois |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | arlunydd, drafftsmon, cartwnydd dychanol, cerflunydd, lithograffydd, engrafwr, darlunydd, arlunydd graffig, artist |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Ratapoil, The Third-Class Carriage |
Arddull | caricature, figure |
Mudiad | realaeth |
Priod | Alexandrine Dassy |
Cyfeiriadau
golygu- Langdon, Helen. "Daumier, Honoré", The Oxford Companion to Western Art