Houghton on the Hill, Norfolk
pentref diffaith yn Norfolk
Pentref canoloesol diffaith yn Norfolk, Dwyrain Lloegr, ydy Houghton on the Hill. Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil North Pickenham yn ardal an-fetropolitan Breckland. Yr unig adeiladau sydd wedi goroesi yw fferm ac Eglwys y Santes Fair. Cafodd yr eglwys ei hachub yn y 1990au ar ôl iddi fynd yn adfail.
Math | pentref diffaith |
---|---|
Ardal weinyddol | North Pickenham |
Daearyddiaeth | |
Sir | Norfolk (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.6138°N 0.7584°E |
Cod OS | TF868053 |
- Am y pentref o'r un enw yn Swydd Gaerlŷr, gweler Houghton on the Hill.