Map o Gymru yn dangos y canran ym mhob awdurdod unedol wnaeth ystyried ei hun yn "Gymreig" yn 2006.

Hunaniaeth genedlaethol y Cymry yw hunaniaeth Gymreig. Ar ei ffurf symlaf mae'n golygu hunaniaeth bod yn un o'r Cymry a gwladgarwch tuag at Gymru, ond yn aml mae hefyd yn gysylltiedig â'r Gymraeg a chenedlaetholdeb Cymreig.

Yng Nghymru'r 21g, mae hunaniaeth Gymreig sifig wedi datblygu sydd yn seiliedig ar gyd-werthoedd sifig a chymryd rhan ym mywyd cymdeithasol a gwleidyddol yng Nghymru.[1]

Effaith gan fewnfudwyr ar hunaniaethGolygu

 
Map yn dangos y canran o bobl yng Nghymru a aned yn Lloegr yn ôl data Cyfrifiad 2011.

O ganlyniad i fewnfudo ers canol yr 20g, o Loegr yn bennaf, nid yw holl drigolion Cymru yn arddel hunaniaeth Gymreig. Mae rhai ymfudwyr yn cymhathu'n ddiwylliannol, trwy ddysgu'r Gymraeg neu drwy ddanfon eu plant i ysgolion Cymraeg. Mae eraill yn glynu at eu hunaniaeth enedigol, neu yn uniaethu â diwylliannau lluosog. Mae nifer o ymfudwyr o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig yn mabwysiadu hunaniaeth Brydeinig ond nid Cymreig. Yn ôl Cyfrifiad 2011, tua 2 miliwn o breswylwyr Cymru a nododd eu bod yn Gymry, ac o'r rhain nododd 218,000 eu bod yn ystyried eu hunain yn Brydeinwyr hefyd. Nododd 424,000 eu bod yn Saeson a 519,000 eu bod yn Brydeinwyr yn unig.[2] Ceir cydberthyniad cryf rhwng siaradwyr Cymraeg ac hunaniaeth Gymreig. Yn ôl Cyfrifiad 2011 roedd 25.4% o’r rhai a ddywedodd fod ganddynt hunaniaeth Gymreig yn gallu siarad Cymraeg. O'r rhai a ystyriodd fod ganddynt hunaniaeth Gymreig a Phrydeinig, 20.0% oedd yn gallu siarad Cymraeg. Dim ond 6% o'r rhai a ystyriodd fod eu hunaniaeth yn Seisnig yn unig a oedd yn gallu siarad Cymraeg.[3] Mae 21% o drigolion Cymru wedi eu geni yn Lloegr, a 13.8% o'r boblogaeth yn arddel hunaniaeth Seisnig. Meddai Gwyddoniadur Cymru: "Er bod llawer o'r mewnfudwyr hyn wedi ymgyfaddasu i fod, yng ngeiriau Gwyn A. Williams, yn 'Gymry Newydd' – pobl yn cymryd rhan ddeallus a gweithredol ym mywyd y wlad – mae eraill wedi tueddu i beidio ag ymwneud â'r diwylliant cynhenid, ac wedi cyfrannu'n sylweddol tuag at Seisnigo Cymru."[4]

Arwyddluniau cenedlaetholGolygu

 
Y Ddraig Goch, croes Dewi Sant, a baner Llywelyn ap Gruffudd uwch pennau’r dorf ym Mharêd Dewi Sant yn Aberystwyth (2017).

CyfeiriadauGolygu

  1. Moya Jones, "Multicultural Challenges to Modern Wales" yn The Politics of Ethnic Diversity in the British Isles, golygwyd gan Romain Garbaye a Pauline Schnapper (Basingstoke, Hampshire: Palgrave Macmillan, 2014), t. 137.
  2. "Cyfrifiad 2011: Hunaniaeth ac Ethnigrwydd", BBC (11 Rhagfyr 2012). Adalwyd ar 4 Ebrill 2018.
  3. "Hunaniaeth genedlaethol", Statiaith. Adalwyd ar 4 Ebrill 2018.
  4. "Saeson" yn Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, t. 830.

Darllen pellachGolygu

  • Robert Pope (gol.), Religion and National Identity: Scotland and Wales c. 1700–2000 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2001).

Dolen allanolGolygu