Hwyaden wyllt

rhywogaeth (adar)
(Ailgyfeiriad o Hwyaden Wyllt)
Hwyaden Wyllt
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Anseriformes
Teulu: Anatidae
Genws: Anas
Rhywogaeth: A. platyrhynchos
Enw deuenwol
Anas platyrhynchos
Linnaeus, 1758
Iâr Hwyaden Wyllt yn glanio.
Anas platyrhynchos

Mae'r Hwyaden Wyllt, Anas platyrhynchos, yn un o'r hwyaid mwyaf cyffredin trwy rannau helaeth o'r byd, yn Ewrop, Asia a Gogledd America.

Mae'r hwyaden yma rhwng 56 a 65 cm o led ac 81–98 cm ar draws yr adenydd. Yn y rhannau lle mae'r gaeafau yn oer, mae'n aderyn mudol.

Aderyn lliwgar iawn yw'r ceiliog yn ei blu nythu, gyda pen gwyrdd a darn glas ar yr adenydd. Mae'r ieir yn liw brown yn bennaf, ond maent hefyd yn dangos y darn glas ar yr adenydd. Gall nythu ar lannau afonydd, llynnoedd neu byllau llai; ac yn aml mae'n nythu ar lynnoedd bychain mewn parciau cyhoeddus ac yn dod yn ddof. Yn y gaeaf mae'n ymgasglu'n heidiau. Gall fyw yn eithaf hen - mae cofnod o Hwyaden Wyllt yn byw am 29 mlynedd.