Gŵyl gerddoriaeth gyfoes yng Ngwlad Pwyl yw Hydref Warsaw (Pwyleg: Warszawska Jesień). Hon yw'r ŵyl fwyaf o'i fath yn y wlad, ac am nifer o flynyddoedd nid oedd gŵyl arall tebyg yn nwyrain a chanolbarth Ewrop. Fe'i ffurfiwyd ym 1956 gan Tadeusz Baird a Kazimierz Serocki, gyda sêl bendith Undeb Cyfansoddwyr Gwlad Pwyl. Cynhaliwyd yr ŵyl gyntaf rhwng 10-20 Hydref 1956. Caiff ei chynnal pob blwyddyn (yr unig eithriadau oedd 1957 a 1982), fel arfer am 8 diwrnod tua diwedd mis Medi.

Clawr cryno ddisg o ŵyl Hydref Warsaw 2001

Dolen allanol

golygu