Hyfforddiant
(Ailgyfeiriad o Hyfforddi)
Caffael gwybodaeth, sgiliau, a chymwyseddau yw hyfforddiant o ganlyniad i ddysgu sgiliau galwedigaethol neu ymarferol a gwybodaeth sy'n berthnasol at fedrau defnyddiol penodol. Mae'n ffurfio craidd prentisiaethau ac addysg mewn sefydliadau technoleg a cholegau polytechnig. Yn ogystal â'r hyfforddiant sylfaenol sydd angen am grefft, galwedigaeth, neu broffesiwn, gwelir angen gan sylwebyddion y farchnad lafur i weithwyr medrus barhau â hyfforddiant y tu hwnt i gymwysterau cychwynnol: i gynnal, uwchraddio, a diweddaru sgiliau trwy gydol bywyd gweithio. O fewn nifer o alwedigaethau mae gweithwyr proffesiynol yn galw'r fath hon o hyfforddiant yn ddatblygiad proffesiynol.