Hywel Davies
Môr-leidr Cymreig oedd Capten Hywel Davies, hefyd Howell Davis neu Hywel Dafydd (tua 1690 – 19 Mehefin 1719). Dim ond am 11 mis y parhaodd ei yrfa fel môr-leidr, o fis Gorffennaf 1718 hyd fis Mehefin 1719, ond bu'n llwyddiannus dros ben. Ei longau oedd y Cadogan, Buck, Saint James, a'r Rover.
Hywel Davies | |
---|---|
Ganwyd | c. 1690 Aberdaugleddau |
Bu farw | 19 Mehefin 1719 Príncipe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | Herwlongwriaeth, môr-leidr |
Cysylltir gyda | Bartholomew Roberts |
Ganed ef yn Aberdaugleddau, Sir Benfro. Roedd yn fêt ar y Cadogan, llong yn cario caethweision, pan gipiwyd y llong gan y môr-leidr Edward England yn 1718. Penderfynodd Davies ymuno a'r môr-ladron, a gwnaed ef yn gapten y Cadogan.
Lladdwyd ef pan wahoddodd llywograethwr Portiwgeaidd ynys Príncipe ef i alw i'w weld yn y gaer am wydraid o win. Ar y ffordd yno, ymosodwyd ar y môr-ladron, a saethwyd Davies yn farw. Cymerwyd ei le fel capten gan forwr arall o Sir Benfro, Bartholomew Roberts, a ddaeth yn enwog fel "Barti Ddu".
Ceir hanes Davies gan y Capten William Snelgrave, meistr y Bird, llong a gipiwyd gan y môr-ladron yn 1719. Cipiwyd ei long gan ŵyr Thomas Cocklyn, oedd yn hwylio gyda Davies, a chafodd ei gamdrin ganddynt. Pan glywodd Davies am hyn, amddiffynnodd Snelgrave, ac mae'n amlwg iddo wneud argraff dda arno. Didgrifiodd Snelgrave ef fel dyn "who (allowing for the Course of Life he had been unhappily engaged in) was a most generous humane Person".
Llyfryddiaeth
golygu- Breverton, Terry (2003) The book of Welsh pirates and buccaneers. Glyndwr Publishing. ISBN 1-903529-09-3