Iaith Arwyddion Prydain
Yr iaith arwyddion fwyaf poblogaidd gan bobl fyddar yn y DU yw Iaith Arwyddion Prydain (Saesneg: British Sign Language neu BSL). Mae 125,000[1] o oedolion byddar yn y DU yn defnyddio'r iaith, yn ogystal â thua 20,000 o blant. Mae'r iaith yn defnyddio gofod a symudiad y dwylo, y corff, yr wyneb a'r pen i gyfathrebu. Mae miloedd o bobl nad ydynt yn fyddar hefyd yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, megis perthnasau, cyfieithwyr, staff meddygol neu eraill sy'n ymwneud â'r gymuned fyddar.
Statws
golyguCydnabyddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig Iaith Aryddion Prydain fel iaith ar 18 Mawrth 2003. Ar 28 Ebrill 2022 cydnabyddwyd BSL fel swyddogol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Mae'r wythnos oddeutu 28 Ebrill bellach yn Wythnos Iaith Arwyddo.[2]
Cymru
golyguArwyddir 'Cymru' (y wlad) mewn BSL fel crafanc Draig Goch Cymru yn sgathru am lawr.[3]
Dolenni allanol
golygu- Cymdeithas Brydeinig y Byddar.
- Signature; enw masnachu CACDP (Council for the Advancement of Communication with Deaf People).
- Grŵp IAB Caeredin.
- DEAFPUB.COM, gwefan wybodaeth am ddigwyddiadau ar gyfer pobl Fyddar a rhai sy'n dysgu IAB..
- Iaith Arwyddion Prydain ar Sianel Youtube Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru
Cyfeiriadau
golygu- ↑ IPSOS Mori GP Patient Survey 2009/10
- ↑ "Wythnos Iaith Arwyddion 2023". Sianel Youtube Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda.
- ↑ "Wales". BSL Sign Language Dictionary. Cyrchwyd 28 Ebrill 2023.