Iard sgrap Dai Woodham

Roedd Iard sgrap Dai Woodham yn iard sgrap yn y Barri, Bro Morgannwg, ac oedd yn allweddol yn hanes Rheilffyrdd treftadaeth Prydain. Daeth dros 80% o’r locomotifau sydd yn rhedeg arnynt heddiw o Iard sgrap Dai Woodham. Aeth 297 locomotifau i’r iard a chafodd 213 eu hachub a throsglwyddo i reilffyrdd treftadaeth.[1].

Iard sgrap Dai Woodham
Mathbusnes, train graveyard Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1892 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBro Morgannwg
GwladBaner Cymru Cymru

Hanes golygu

Sefydlwyd y cwmni gan Albert Woodham yn 1892 gyda iard yn Heol Thomson, Y Barri. Prynwyd ac ailwerthwyd pren, raffau a metal o’r cymniau yn ardal Dociau’r Barri. Gadawodd un o’i feibion, Dai, y fyddin ym 1947, a chymerodd y cwmni drosodd, yn ei ailenwi'r Brodir Woodham.[1].

Yn y 1960au, penderfynwyd cael gwared o locomotifau stêm Rheilffyrdd Prydeinig; sgrapiwyd llawer gan weithdai y rheilffyrdd, ond aeth rhai i gwmnïau sgrap dros Brydain. Cymerodd y Brodir Woodham llawer ohonynt, a miloedd o wagenni hefyd. Roedd sgrapio wagenni’n broses cyflymach ac yn rhatach, felly cadwyd y locomotifau wrth gefn. Sylweddolwyd yn gyflym gan reilffyrdd treftadaeth, a gan unigolion hefyd, bod nifer fawr o locomotifau stêm ar gael i brynu. Roedd Dai Woodham yn ddyn busnes, ond datblygwyd perthynas rhyngddo a’r rheilffyrdd treftadaeth. Arhosodd locomotifau yn y iard sgrap tra chodwyd digon o arian i’w prynu. Erbyn 1987, roedd y locomotifau i gyd wedi gadael yr iard. Prynwyd y 10 olaf gan y cyngor lleol; rhai o’r deg wedi cael eu hatgyweirio, a’r gweddill wedi defnyddio i drwsio locomotifau eraill.[1].

Cyfeiriadau golygu