Ibn Saud, brenin Sawdi Arabia
Brenin cyntaf Sawdi Arabia oedd Abdul-Aziz ibn Abdul-Rahman al Faisal al Saud (Arabeg: عبد العزيز آل سعود, ‘Abd al-‘Azīz Āl Su‘ūd; 1876 (ond dywedir 1880 mewn ffynonellau traddodiadol) – 9 Tachwedd 1953) a elwir yn aml yn Ibn Saud.
Abdulaziz | |||||
---|---|---|---|---|---|
![]() | |||||
Brenin Sawdi Arabia | |||||
Teyrnasiad | 14 Awst 1932 – 9 Tachwedd 1953 | ||||
Coronwyd | 22 Medi 1932 | ||||
Rhagflaenydd | Ef ei hun fel Brenin Nejd a Hejaz | ||||
Olynydd | Saud | ||||
Brenin Nejd a Hejaz | |||||
Teyrnasiad | 8 Ionawr 1926 – 23 Medi 1932 | ||||
Olynydd | Ef ei hun fel Brenin Sawdi Arabia | ||||
Ganwyd |
15 Ionawr 1876 Riyadh | ||||
Bu farw |
9 Tachwedd 1953 (77 oed) Taif, Sawdi Arabia | ||||
Claddwyd | Mynwent Al-Oud, Riyadh | ||||
Plant | nifer | ||||
| |||||
Teulu | Teulu Saud | ||||
Tad | Abdul Rahman bin Faisal | ||||
Mam | Sarah Al Sudairi | ||||
Crefydd | Sunni Islam |
Fe'i ganwyd yn Riyadh i'r frenhinllin Saud, a chafodd ei deulu ei alltudio i Ciwait pan oedd Arabia yn rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid. Ym 1902 dychwelodd Ibn Saud i adennill Riyadh a rheoli Nejd a Hasa, ac ym 1921 datganodd ei hunan yn Swltan Nejd. Ym 1926 concrodd Teyrnas Hejaz a ffurfiodd Teyrnas Nejd a Hejaz, a ailenwodd yn Sawdi Arabia ym 1932.
Darganfuwyd petroliwm yn Sawdi Arabia yn y 1930au a daeth â chyfoeth anhygoel i Ibn Saud a'i wlad; erbyn ei farwolaeth roedd yn un o ddynion cyfoethocaf y byd. Bedowin ac imam etifeddol yr Wahabïaid oedd Ibn Saud, a gosododd sharia yn sail gyfreithiol ei deyrnas. Roedd yn briod i tua 300 o wragedd, ac yn dad i nifer o blant gan gynnwys Saud a'i olynodd fel brenin (1953-64), ac yna'i fab Faisal (1964-75), Khalid (1975-82), Fahd (1982-2005), Abdullah (2005-15) a Salman (2015 hyd y presennol).
Rhagflaenydd: neb |
Brenin Sawdi Arabia 23 Medi 1932 - 9 Tachwedd 1953 |
Olynydd: Saud bin Abdulaziz Al Saud |