Ice Age: Dawn of the Dinosaurs
Ffilm animeiddiedig Americanaidd o 2009 a gynhyrchwyd gan Blue Sky Studios yw Ice Age: Dawn of the Dinosaurs. Mae'n ddilyniant i'r ffilmiau Ice Age ac Ice Age: The Meltdown. Clywir lleisiau'r actorion Ray Romano, John Leguizamo, Denis Leary, Queen Latifah, Jay Leno, Seann William Scott, Josh Peck, Simon Pegg, a Chris Wedge yn y ffilm.
Ice Age: Dawn of the Dinosaurs | |
---|---|
Cyfarwyddwyd gan | Carlos Saldanha |
Cynhyrchwyd gan |
|
Sgript |
|
Stori | Jason Carter Eaton |
Yn serennu | |
Cerddoriaeth gan | John Powell |
Golygwyd gan | Harry Hitner |
Stiwdio |
|
Dosbarthwyd gan | 20th Century Fox |
Rhyddhawyd gan |
|
Hyd y ffilm (amser) | 94 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Cyfalaf | $90 miliwn |
Gwerthiant tocynnau | $886 miliwn[1] |
Mae'r stori'n dilyn hynt y sloth Sid ar ôl iddo gael ei gipio gan Tyrannosaurus Rex benywaidd. Mae gweddill y cymeriadau yn anturio i'w achub mewn byd coll trofannol llawn dinosoriaid dan yr iâ. Er cael adolygiadau cymysg gan feirniaid, dyma'r trydydd mwyaf llwyddiannus o ran derbyniadau o unrhyw ffilm animeiddiedig, gydag incwm o $886.7m ledled y byd, gan gynnwys £34.8m yn y Deyrnas Unedig.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Ice Age: Dawn of the Dinosaurs". Box Office Mojo. Cyrchwyd 8 Medi 2009.