Ifana Savill

llenor

Awdur a perchennog busnes o Geredigion yw Ifana Savill.

Ifana Savill
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethllenor Edit this on Wikidata

Mae Savill yn awdures doreithiog sy' wedi ysgrifennu nifer o lyfrau am anturiaethau a bywyd Sali Mali, Jac-y-jwc a'r criw. Hi cafodd y syniad i greu Canolfan Pentre Bach ym Mlaenpennal, Ceredigion. Ysgrifennodd Savill gyfres yn seiliedig ar straeon Sali Mali ar gyfer S4C o'r enw Slot Syniadau Sali. Ffilmiwyd cyfres ddilynol, Pentre Bach, a oedd yn cynnwys 52 o benodau a ddarlledwyd ar 6 Medi 2004, gan ddefnyddio'r pentref pwrpasol, a redir gan Ifana ac Adrian Savill.[1]

Cyhoeddiadau

golygu

Mae Ifana wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau gan gynnwys y canlynol;

  • Pobl Pentre Bach: Coblyn o Broblem! (2011)
  • Ble Mae Sali Mali? (2017)

Cyfeiriadau

golygu
  1. "www.gwales.com - 1848513933". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-19.


Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Ifana Savill ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.

  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.