Igam-ogam
Patrwm o gorneli bychain ar onglau amrywiol ond rhai cyson yn olrhain llwybr rhwng dwy linell gyfochrog yw igam-ogam (hefyd igamoga yng ngogledd Cymru. wicam-wocam yn y de-ddwyrain, a miga-moga yn y de-orllewin). Fe'i defnyddir hefyd i ddisgrifio cerddediad person ac mae'n bur debyg fod yma gyfuniad o bedwar gair: !i gam o gam'.
O safbwynt cymesuredd, gall igam-ogam cyffredin gael ei gynhyrchu o motiff syml, megis cylchran llinell, trwy ailadrodd adlewyrchiad llithriad. Mae mellt a pheryglon trydanol eraill yn aml yn cael eu cynrychioli gan ddyluniad igam-ogam.
Daw'r enghreifftiau cynharaf o'r gair 'igam-ogam' o'r 18g ond arferid defnyddio 'ar gam' fel mesur o gyflymder cerddediad person; yn achlysurol, ceir hefyd 'ogam igam'.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ [i gam Geiriadur Prifysgol Cymru' (GPC);] adalwyd 2 Hydref 2018.